Croeso i Wastadeddau Gwent…

…tirlun rhyfeddol wedi’i leoli rhwng bryniau de Cymru a dyfroedd llawn silt Aber Afon Hafren.

Wedi’u hadennill o’r môr gan y Rhufeiniaid, dros y ddwy fil o flynyddoedd diwethaf, mae cenedlaethau o bobl wedi llunio’r Gwastadeddau i greu tirlun nodedig gyda hanes dwfn, cyfoethog ac yn doreithiog o fywyd gwyllt.

Nod Partneriaeth Tirlun Lefelau Byw yw ailgysylltu pobl a chymunedau â Gwastadeddau Gwent a darparu dyfodol cynaliadwy i’r ardal hanesyddol ac unigryw hon.

Archwiliwch ein gwefan i ddarganfod y Lefelau Byw.



Bywyd ar y Lefelau

Mae Bywyd ar y Lefelau yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol y tirlun unigryw hwn trwy gofnodi straeon pobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae ar y Gwastadeddau.

Archwiliwch archif hanes llafar Bywyd ar y Lefelau


Lefelau Byw ar Instagram