- Gordon a Linda Shears, ffermwyr (Llansanffraid Gwynllŵg)
▶ Gwyliwch gyfweliad Gordon a Linda Shears
Cafodd yr Ail Ryfel Byd effaith fawr ar Fferm Cherry Orchard yn Llansanffraid Gwynllŵg.
Un diwrnod hedfanodd awyren ragchwilio Luftwaffe yn isel dros y ffermdy: “Fe wnes i chwifio at y peilot!” meddai Gordon. Dro arall cwympodd ffrwydryn tir, gan rwystro'r lôn. Gyrrodd tryciau milwrol ar y morglawdd, gan dywallt llen fwg allan i guddio’r dociau rhag bomwyr y gelyn wrth i filwyr yr Unol Daleithiau orymdeithio heibio, yn dychwelyd yn ôl i'r gwersyll yn Nhŷ Tredegar. Roedd ysbail rhyfel yn cynnwys llwyau cegin a ollyngwyd ym mwyd y moch, bwledi gwag o'r maes tanio cyfagos, a pharasiwtiau sidan bach o dargedau ymarfer milwrol.
Mae Gordon wedi byw yn Fferm Cherry Orchard ers i’w dad William, cyn-filwr wedi ei anafu o’r Rhyfel Byd Cyntaf, symud yma gyda’i wraig Beatrice yn 1934. Dysgodd Gordon sut i doi tas gwair, suit i weithio eu ceffylau cart, Blossom, Flower, Diamond a Bonnie, a sut i dynnu buwch yn hanner boddi o'r ffosydd. (Goroesodd y bwystfil y profiad caled.)
Mae’n cofio rhuthro trwy lifogydd ar fws deulawr, gwylio hen ddyn yn pysgota am lyswennod yn defnyddio ymbarél fel rhwyd, a’r busnes o fyw o dan lefel y môr: “Yn y nos fe allech chi glywed y môr,” meddai Linda. “Mae wedi newid llawer.”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.