Dros y degawdau diwethaf mae darganfyddiadau archeolegol anhygoel wedi eu canfod yng Ngwastadeddau Gwent wedi.
Yn 1994, gwnaeth yr archeolegydd lleol Derek Upton ddarganfyddiad rhyfeddol. Wrth ymweld â'r ardal gyda thîm o archeolegwyr dan arweiniad Rick Turner, daeth Derek ar draws weddillion llong a gladdwyd yn y mwd 500m o'r morglawdd yn Magor Pill.
Trwy ddadansoddi sampl o bren, dangosodd fod y llong wedi'i hadeiladu rywbryd yn y 13eg ganrif. Mae darganfyddiadau cychod o'r cyfnod hwn yn brin iawn, felly gwnaed y penderfyniad i geisio adfer a gwarchod yr olion. Profodd hyn yn dasg anodd gan fod y safle ond yn dod i’r golwg am uchafswm o ddwy awr bob ochr i'r llanw isel.
Cloddiwyd ac adferwyd y llongddrylliad gan Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent (GGAT), gyda chymorth Laing-GTM, a oedd yn adeiladu Ail Groesfan Hafren gerllaw. Anfonwyd pren y llong, a oedd wedi'u cadw mewn cyflwr da gan fwd yr aber, i Amgueddfa Genedlaethol Cymru i'w cadw a'u dadansoddi.
Dangosodd dadansoddiad pellach o'r pren, gan ddefnyddio dull o ddyddio gyda chylchoedd coed (dendrocronoleg), i’r llong gael ei hadeiladu yn OC 1239/40. Nid oedd y llong yn gyflawn ond yn wreiddiol byddai wedi bod tua 14m o hyd, 3.7m o led a 1.2m o ddyfnder. Astyllog oedd corff y llong, gyda phlanciau derw wedi hoelio i’w gilydd gyda hoelion haearn. Defnyddiwyd gwlân rhwng y planciau i'w selio (calcio). Amcangyfrifir y gallai fod wedi cario llwyth o hyd at 3.75 tunnell fetrig.
Roedd drafft bas y llong yn ddelfrydol ar gyfer teithio i fyny afonydd a chilfachau llanw bach i fannau glanio neu borthladdoedd bach, er mae’n debygol iddi fod wedi gallu gwneud mordeithiau cyn belled ag Iwerddon hefyd. Yn ystod y cyfnod canoloesol byddai cychod o'r fath wedi cludo nwyddau, anifeiliaid a phobl i borthladdoedd yng Nghasnewydd, Caerllion, Cas-gwent a Mynwy, a chyn belled yn fewndirol â Henffordd ar hyd Afon Gwy.
Cafodd y cwch ei hatgyweirio rhywfaint yn ystod ei hoes, yn fwyaf nodedig lle cafodd hollt mewn pren yng nghorff y llong ar ochr chwith ei atgyweirio gyda stribedi tenau gwastad (dellt) o dderw wedi eu cysylltu o'r tu mewn.
Roedd y llong yn cario mwyn haearn, yn debygol o Forgannwg, pan suddodd yn y gilfach. Ni wyddai neb pam suddodd y llong, ond efallai ei bod wedi ceisio llochesu rhag storm, efallai i bwynt gwan hollti wrth droi drosodd, neu fod ei llwyth trwm wedi symud oddi ar ei ffrâm bren, gan beri i'r cwch droi drosodd.
Ar yr adeg y suddodd y llong, porthladd bach neu fan glanio ar ymyl y Gwastadeddau oedd mynedfa i Magor Pill, o'r enw Abergwaitha (cofnodwyd gyntaf yn 1245). Mae'n debyg bod y porthladd yn gwasanaethu Lower Grange Abaty Tyndyrn, Magwyr, a'r ardal gyfagos. Mae olion y porthladd wedi hen ddiflannu bellach o dan ddŵr yr aber mwdlyd.
Bellach, gelwir y darganfyddiad hwn yn ‘Cwch Magor Pill’ ac mae’n dangos pwysigrwydd porthladdoedd cilfachau bach ar hyd Aber Hafren yn ystod y cyfnod canoloesol, pan oedd masnach arfordirol yn ddibynnol ar gychod bach. Roedd hefyd yn gyfle hynod werthfawr i astudio manylion adeiladu llong o'r 13eg ganrif.
Mwy o wybodaeth
Nayling, N., 1998. The Magor Pill Medieval Wreck, CBA Research Report 115. Council for British Archaeology, York.
Gellir lawrlwytho copi am ddim o'r adroddiad hwn o wefan Gwasanaeth Data Archeoleg (Archaeology Data Service).
Magor Pill
Mae Magor Pill yn un o nifer o gilfachau llanw hynafol a arferai groesi'r Gwastadeddau.
Mae olion Rhufeinig ac Oes yr Haearn a ddarganfuwyd wrth fynedfa'r Pill yn dangos ei fod wedi'i ddefnyddio ers canrifoedd fel man glanio ac fel ffordd o deithio tuag at y mewndir.
Yn ystod yr Oesoedd Canol, roedd porthladd bach o'r enw Abergwaitha wrth fynedfa'r Pill. Mae'n debygol fod y porthladd ar waith hyd at yr 16eg ganrif, pan orfododd erydiad arfordirol y morglawdd yn ôl cannoedd o fetrau i'w linell bresennol.