Beth yw PTLB?
Mae Partneriaeth Tirlun y Lefelau Byw (PTLB) wedi dod at ei gilydd i gyflwyno rhaglen o waith a fydd yn hyrwyddo ac yn ailgysylltu pobl â threftadaeth, bywyd gwyllt a harddwch gorfoleddus tirwedd hanesyddol Gwastadeddau Gwent.
Gwyliwch ein ffilm am dirlun anhygoel Gwastadeddau Gwent a'r gwaith cyffrous y bydd Lefelau Byw yn ei gyflawni.
Mae'r Rhaglen yn ceisio gwarchod ac adfer nodweddion treftadaeth naturiol bwysig yr ardal, datblygu mwy o werthfawrogiad o werth y dirwedd, ac i ysbrydoli pobl i gymryd rhan ac i ddysgu am dreftadaeth Gwastadeddau Gwent. Bydd grant o £2.5 miliwn gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri yn ein helpu i annog nawdd pellach a chyflwyno cynllun gwerth £4 miliwn dros y tair blynedd a hanner nesaf.
Mae ein Cynllun yn gofalu am ardal maint 225km2 sy'n ymestyn o Gaerdydd ac Afon Rhymni yn y gorllewin i Gas-gwent ar yr Afon Gwy yn Sir Fynwy i'r dwyrain. Yn bennaf yn iseldir amaethyddol sy’n gris-groes â rhwydwaith cymhleth o systemau draenio a ffosydd, mae ardal y prosiect hefyd yn cynnwys parth rhynglanwol o dywod, morfeydd heli a gwastadeddau llaid a ddatgelir ar lanw isel ar hyd arfordir gogleddol Aber Afon o fewn Cymru. Gweler ein map prosiectau am ragor o fanylion.
Ein rhaglenni:
Cymryd Rhan
Rhwng 2018 a 2021, bydd 24 o brosiectau disylw ond yn gysylltiedig â’i gilydd yn cael eu cyflwyno ar draws ardal Gwastadeddau Gwent yn Ne Cymru. Mae yna lawer o gyfleoedd i gymryd rhan trwy wirfoddoli, hyfforddi a thrwy ein rhaglen o ddigwyddiadau cyffrous.
Os hoffech gymryd rhan neu deimlo bod gennych rywbeth i'w ychwanegu, tebyg i stori am y Gwastadeddau, llun, hen fap neu rywfaint o waith ymchwil eich hun, neu os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch ag aelod o'r tîm. Byddwn yn falch iawn o glywed gennych chi!
Bydd ein gwaith yn cael ei rannu’n dair prif raglen waith:
Nod cyffredinol cynllun Partneriaeth Tirlun y Gwastadeddau yw ailgysylltu pobl a chymunedau i'w tirlun a darparu dyfodol cynaliadwy i'r ardal hanesyddol ac unigryw yma.
Byddwn yn gwneud
hyn trwy:
Creu partneriaeth gref, gyda'r gymuned yn ganolbwynt
Adennill a chyfoethogi’r dreftadaeth naturiol a hanesyddol
Dathlu ei straeon
Darparu cyfleoedd newydd ar gyfer dysgu, datblygu sgiliau, cyfranogi a buddsoddi
Annog a darparu mynediad i bawb
Adeiladu cynhwysedd a gwydnwch yn y tymor hir
O ganlyniad i’r
cynllun yma:
Bydd gwell dealltwriaeth o Wastadeddau Gwent gan bawb sy'n byw, yn gweithio, ac yn dewis mwynhau’r ardal
Bydd Tirlun Gwastadeddau Gwent yn cael ei reoli a’i gofnodi yn fwy effeithiol, ac mewn cyflwr gwell
Bydd pobl wedi datblygu sgiliau; dysgu am y tirlun a'i dreftadaeth
Bydd mwy o amrywiaeth a nifer o bobl yn cymryd rhan
Bydd yr ardal leol yn lle gwell i fyw, i weithio neu ymweld â hi