- Iris Theobald ac Ivy James, plant y rheilffordd (Rogiet)
▶ Gwyliwch gyfweliad Ivy, Terry ac Iris
Symudodd George a Fanny Kibbey o Swydd Gaerwrangon i weithio ar Reilffordd y Great Western. Fel y mae’r ferch Iris Theobald yn cofio: “Roedd gan bron bob teulu ddyn yn gweithio ar y rheilffordd.” Roedd gan Iris bedair chwaer: Ivy, Olive, May a Rose. Mae Ivy (James) yn cofio'r teulu'n derbyn glo rhad. “Byddai'r rheilffordd yn dympio tunnell ar y lôn a byddai'n rhaid i ni ei rhawio i'r stordy glo.”
Gyrrodd eu tad beiriannau stêm ar ‘double homes’ (aros i ffwrdd am un noson) ac wrth gefn mewn argyfwng - “byddai galwr yn curo’r drws unrhyw adeg o’r dydd neu’r nos i’w godi.” Yn y cyfamser, roedd y Trên Brenhinol weithiau'n aros yn agos i Dwnnel Hafren ger Gorsaf Porthsgiwed. “Fe ddywedon nhw ei fod yn gyfrinach, ond ro’n ni i gyd yn gwybod.”
Byddai'r chwiorydd y rheilffordd yn crwydro'r Gwastadeddau. Iris: “Roedd y caeau yn llawn blodau gwyllt yn unig: treulion ni hanner ein hoes ar y Rhostiroedd. A chasglu cocos rhwng y llanw - roedd rhaid bod yn ofalus – byddai’r llanw'n dod i mewn yn gyflym”, ac efallai gwerth ceiniog o hufen iâ mewn gwydr ar ddydd Sul “wedi'i rannu oherwydd doedd dim arian bryd hynny”.
“Ro’n ni i lawr yn y rhostiroedd, yn gwneud tŷ yn y coed, yn dilyn y cŵn hela a’r cotiau coch, neu’n sgwrsio gyda’r Sipsiwn gyda’u ceffylau brown a gwyn a’u carafanau hen ffasiwn.” Pan ddaeth y rhyfel, roedd gwaith arfau ar gael, gwneud gorchuddion blacowt ar gyfer priflampau, ac os oeddech chi'n lwcus, cael dawnsio gyda milwyr Americanaidd. Meddai Ivy, yr oedd “ddeg gwaith yn well nag y mae nawr.”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.