- Tim Rooney, ffarier (Maerun)
Wedi'i fagu a chael addysg ym Maerun, mae Tim Rooney yn cyfaddef ei hun, nad oedd byth yn hapus mewn dosbarth. “Doeddwn i ddim yn ryw hoff iawn o’r ysgol, ond bob amser yn frwdfrydig am geffylau.”
Nid yw'n syndod o ystyried cefndir ei deulu ar y Gwastadeddau. “Yn y dyddiau hynny,” meddai Tim, “byddai gan bob fferm geffyl pwynt-i-bwynt”, ac roedd meistri hela lleol fel yr Arglwydd Tredegar yn dibynnu ar gyflenwad da o geffylau. Roedd Gustavas, tad-cu Tim, yn werthwr ceffylau ac yn gwerthu ceffylau i'r fyddin. “Roedd yn dal i farchogaeth yn ei saithdegau.” Yn y cyfamser roedd tad Tim ‘Guvo’, cyn filwr a ffermwr Maerun, yn marchogaeth tua 70 o enillwyr yn pwynt-i-bwynt.
Dechreuodd Tim fusnes pedoli yn 1972 pan nad oedd llawer o ffariers ar gael. Nid oedd prinder gwaith. “Wnaethon ni ddim mynd allan i bedoli: daeth llawer o geffylau hela i’r efail.” Hefyd, byddai offer llaw gweithwyr y cyngor yn cael hogi neu atgyweirio yno. “Dim mecaneiddio bryd hynny. Nid ydyn nhw'n atgyweirio pethau bellach.” Ar un achlysur cyrhaeddodd y Sipsi Tom Price mewn fan fach. “Yn y cefn roedd merlen Shetland!”
Ond nawr, meddai, mae traffig yn atal perchnogion i farchogaeth eu ceffylau i'r efail. “Rydyn ni'n mynd allan i bedoli bron pob ceffyl: mae'n gweddu’n well i ni oherwydd bod y ceffylau yn dawelach yn eu hamgylchedd eu hunain.”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.