Gwas Neidr Flewog

Ewch am dro ar y Gwastadeddau ddiwedd Ebrill neu ddechrau Mai ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i ddod ar draws un o'n pryfed harddaf, Gwas Neidr Flewog (Brachytron pratense).

Tan yn ddiweddar, roedd y gwas neidr bach hwn yn brin yn y DU, i'w gael yn bennaf ar arfordir y de yn Sussex a Chaint, ar Wastadeddau Gwlad yr Haf a Gwent, a rhannau o Sir Benfro. Dros y blynyddoedd diwethaf mae wedi elwa o aeafau mwynach a hafau cynhesach ac wedi lledu ar draws de Prydain. Mae bellach i'w gael mor bell i'r gorllewin ag Iwerddon ac wedi cyrraedd arfordir gorllewinol yr Alban.

Mae’r Gwas Neidr Flewog wedi’i enwi’n berffaith (Chris Harris)

Mae’r Gwas Neidr Flewog wedi'i enwi'n berffaith. Mae gan wrywod thoracs amlwg blewog (rhan ganol y corff), tra bod gan fenywod abdomen blewog hefyd. Mae gwrywod a benywod yn gymharol hawdd i'w gwahanu; mae gan wrywod barau o smotiau glas ar hyd yr abdomen, dwy streipen werdd ar ben y thoracs, a llygaid glas trawiadol; mae gan fenywod barau o smotiau melyn ar hyd yr abdomen a llygaid brown. 

Mae Gwas Neidr Flewog yn perthyn i grŵp a elwir yn Saesneg yn ‘hawkers’, ac fel mae’r enw’n awgrymu, mae’n treulio llawer o’i amser fel oedolyn yn hedfan, yn patrolio tiriogaeth, yn bwydo neu'n chwilio am gymar. Mae'r grŵp hwn yn cynnwys rhai o'n gweision neidr mwyaf, fel yr Ymerawdwr, Gwas Neidr Brown a Gwas Neidr y De. Gweision Neidr Blewog yw aelodau lleiaf y grŵp.

Mae'r Gwastadeddau wedi bod yn gadarnle i'r rhywogaeth hon ers amser maith, gan eu bod yn ffafrio ardaloedd â dŵr heb ei lygru, dŵr llonydd neu sy’n llifo’n araf gyda llawer o lystyfiant naturiol. Maen nhw’n aml yn gysylltiedig â chorsydd pori ond gellir eu canfod hefyd ar hyd camlesi ac afonydd sy'n llifo'n araf, pyllau cerrig mân dan ddŵr a llynnoedd.

Gweision Neidr Blewog yw un o'r rhywogaethau cyntaf i ymddangos ac fel rheol gellir gweld oedolion o ddiwedd Ebrill hyd at ddechrau Gorffennaf.

 

Gweision Neidr eraill y Gwastadeddau

Gwylio Gwyllt

A hoffech chi ddysgu mwy am fywyd gwyllt Lefelau Byw? Yna ymunwch â ni am gyfres o ddigwyddiadau hyfforddi i'ch helpu i fagu'r hyder, y sgiliau a'r wybodaeth i'ch galluogi i arolygu a chofnodi bywyd gwyllt.


 

Ble i’w gweld…

Dolydd Great Traston SoDdGA  (Ymddiriedolaeth Natur Gwent)

Cors Magwyr (Ymddiriedolaeth Natur Gwent)

Gwlyptiroedd Casnewydd yr RSPB

 

 

Beth i edrych amdano...

Mae gan wrywod lygaid glas, streipiau gwyrdd ar y thoracs a pharau o smotiau glas ar hyd yr abdomen.

Mae gan fenywod lygaid brown a smotiau melyn ar hyd yr abdomen.

 Chwiliwch amdanynt ar hyd rhewynau a ffosydd dan ddŵr rhwng diwedd Ebrill a dechrau Gorffennaf ar ddiwrnodau cynnes, heulog.