Ar ddydd Iau Gorffennaf y 1af, ymwelodd Gweinidog Newid Hinsawdd newydd Cymru Julie James AS â Phartneriaeth Tirlun Lefelau Byw yng Ngwarchodfa Natur Cors Magwyr (Ymddiriedolaeth Natur Gwent) i wneud datganiad pwysig am ei bwriad i weithredu i warchod a rheoli Gwastadeddau Gwent yn well. Cafodd y Gweinidog ei chyfarch gan grŵp o chwe chynrychiolydd o bartneriaid y Lefelau Byw a achubodd ar y cyfle i ddangos gwerth y gwaith y mae Lefelau Byw wedi bod yn ei wneud dros sawl blwyddyn.
Yn fuan ar ôl yr ymweliad, rhyddhaodd y Gweinidog ddatganiad yn addo gweithrediad ychwanegol i gynnal a gwella bioamrywiaeth a sicrhau bod y Gwastadeddau yn ased hamddena gwerthfawr ar gyfer pobl yr ardal ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Yn ystod yr ymweliad, mynegodd y Gweinidog ei hedmygedd a'i chefnogaeth i barhad y bartneriaeth Lefelau Byw y tu hwnt i ddiwedd cyllid cyfredol y Loteri. Cyfeiriodd at ffrydiau cyllido fel £9.8M y Gronfa Rhwydweithiau Natur gyda Chronfa Dreftadaeth y Loteri a allai gefnogi'r cynllun etifeddiaeth ynghyd â chryfhau fframwaith y polisi cynllunio i reoli datblygiad ar Wastadeddau Gwent yn well yn y dyfodol.
Roedd hwn yn ymweliad amserol a gafodd ei groesawu'n fawr yn dilyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i ddileu’r diogelwch i’r coridor ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Bydd Lefelau Byw yn ymdrechu i weithio'n agos gyda'r Gweinidog yn y dyfodol i roi cynlluniau manwl ar waith i gefnogi'r datganiad o fwriad pwysig hwn.
Gallwch ddarllen datganiad llawn y Gweinidog ar wefan Llywodraeth Cymru.
Gallwch ddarllen datganiad llawn y Gweinidog ar wefan Llywodraeth Cymru.