Y Tirlun
They always say the best way to see the Gwent Levels is with a microscope or a helicopter. You’ve either got to get right in and go, look, this is amazing down here, or you’ve got to get up high and see this vast, extraordinary landscape from above.
Mae Gwastadeddau Gwent yn dirlun eiconig, aberol o arwyddocâd Rhyngwladol. Wedi'i adfer o'r môr yng nghyfnod y Rhufeiniaid, mae Gwastadeddau Gwent yn rhwydwaith o gaeau ffrwythlon a sianeli dŵr hanesyddol, sy'n cael eu hadnabod yn lleol fel rhewynau.
Argraffiadau cyntaf o dirlun Gwastadeddau Gwent i rai yw tirwedd annymunol, gwastad a chymharol wag, wedi'i osod rhwng aber enfawr Afon Hafren ac ardaloedd trefol eang Caerdydd a Chasnewydd.
Fodd bynnag, wrth archwilio ymhellach, datgelir bod Gwastadeddau Gwent yn dirlun arfordirol anhygoel ac apelgar gyda’i awyr eang yn ymestyn hyd at orwelion isel a strwythur geometrig o sianeli dŵr cul. Ar y cyd, mae’n enghraifft o dirlun arfordirol gorau yng Nghymru sy'n cael ei ddefnyddio, ei addasu a'i drawsnewid gan y cymunedau sydd wedi byw yma ers ei adfer o Aber Afon Hafren yn ystod y cyfnod Rhufeinig.
Mae'r Gwastadeddau yn bennaf yn dirlun bugeiliol wedi'i ddraenio, ei ddyfrhau a'i addasu i gynorthwyo ffermio llewyrchus, tra hefyd yn darparu ystod amrywiol o gynefinoedd lled-naturiol ar gyfer rhywogaethau prin. Mae'r gorwel isel, tirwedd lyfn a’r awyr eang, sy'n cael ei gyfoethogi'n aml gan gymylau, machlud a chodiad yr haul dramatig yn rhoi teimlad arallfydol unigryw i'r Gwastadeddau.
Mae dŵr yn bresennol yn barhaol ar draws y tirlun, gan greu caeau ffrwythlon ac yn achosi heriau wrth geisio anheddu a meddiannu’r tirlun. Mae patrymau draenio nodedig o ddraeniau, rhewynau (reens) ffosydd ac afonydd sydd wedi troi’n gamlesi, wedi'u hamlygu gan resi o helyg wedi’u tocio, ac yn diffinio tirlun sydd wedi ei gynllunio a’i adfer.
Yn aml, y morglawdd a’r llethrau sy'n arwain ffyrdd a gyrlwybrau rhwng ffermydd a phentrefi, yw’r unig nodweddion tirlun sy’n sefyll mewn rhai mannau. Mae heidiau mawr o adar y glannau ac adar eraill y gwlyptir yn ymweld â'r gwastadeddau llaid a’r gwlyptiroedd arfordirol oherwydd cyflenwad helaeth o fwyd, tra bod llystyfiant prin ac unigryw, ymlusgiaid, haid o lygod pengrwn y dŵr a dyfrgwn i'w gweld yn y system eang o rewynau.
Mae dinasoedd a threfi sy'n ferw o brysurdeb o gwmpas y Gwastadeddau yn atgyfnerthu’r teimlad cryf o heddwch ac o fod yn anghysbell yng nghanol tir gwyllt, oddi wrth drigfannau dynol mewn sawl man. Yn yr haf, mae'r Gwastadeddau yn dirlun gwyrdd gyda llystyfiant ffrwythlon ar draws dolydd ac ar hyd sianeli dŵr; mae hyn yn cyferbynnu â'r teimlad anghysbell a gwyllt yn ystod y gaeaf ar y Gwastadeddau.
Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref i gyfoeth o asedau archeolegol a threftadaeth o bwysigrwydd cenedlaethol, llawer o fewn y pridd dyfrlawn ar draws yr ardal, sy'n dangos hanes meddiannaeth a rheolaeth ddynol.
Mae diwylliant a natur wedi'u plethu’n ddwfn ar draws tirlun Gwastadeddau Gwent. Mae’r rhwydwaith cymhleth o ffosydd draenio corsiog a’r rhewynau cris-groes yn croesi'r Gwastadeddau fel gwythiennau mawr, gan gario dŵr o'r ucheldiroedd yn ddiogel allan i'r môr i ddiogelu'r tir sydd wedi'i adfer rhag llifogydd, a chynnal cynefinoedd gwlyptir sy’n gyfoethog yn ecolegol o ddiddordeb gwyddonol arbennig cenedlaethol. Y camlesi byw yma sy'n gosod Gwastadeddau Gwent ar wahân, yn lleoliad diwylliannol ac ecolegol unigryw.
Mae'r cyfuniad o bobl leol sy'n rheoli tirwedd ddeinamig trwy systemau a ddatblygwyd dros 2000 o flynyddoedd gyda'i hanes, geirfa, bywyd gwyllt a phlanhigion unigryw yn llunio’r dreftadaeth brin ac arbennig yma i fod yn gyflenwad llawn cyfoeth sydd angen ei warchod a'i ddiogelu er mwyn i genedlaethau’r dyfodol ei fwynhau. Mae'n amlwg bod helaeth o bobl leol yn falch iawn o’u hardal, ac yn ei werthfawrogi’n ddirfawr. Cydnabyddir pwysigrwydd cenedlaethol Gwastadeddau Gwent fel tirwedd ragorol sydd wedi'i grefftio â llaw pan gafodd ei gynnwys yng Nghofrestr o Dirweddau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, 1998.
Mae ymdeimlad cryf o hanes rheoli a phreswylio dynol yn treiddio’r tirlun, a adlewyrchir ym mhatrymau caeau, draeniad a meddiant sy'n creu un o'r tirluniau caeedig canoloesol sydd wedi goroesi orau yng Nghymru. Os edrychir arno oddi uchod, gyda’r rhewynau yn creu ffiniau caeau parhaol, prin yw’r newidiadau ers canrifoedd ac mae’r effaith weledol yn drawiadol.