Yn 2002, yn ystod adeiladu Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd ar lan orllewinol Afon Wysg, darganfuwyd gweddillion llong o'r 15fed ganrif.
Roedd y llong yn wreiddiol yn mesur 35 metr o hyd ac yn cario tua 168 tunnell o gargo, o bosib gwin. Datgelwyd dadansoddiad o'r coed derw fod y cwch wedi cael ei adeiladu tua 1449 yn rhanbarth y Basg yng ngogledd Sbaen. Mae darganfyddiadau'n dangos fod y llong yn debygol o fod yn masnachu rhwng Bryste ac ail borthladd pwysicaf y wlad, Portiwgal.
Roedd gweddillion fframwaith oedd yn cynnal y llong yn awgrymu ei bod wedi ei hangori ar gyfer atgyweiriadau pan ddisgynnodd y fframwaith a chwalodd y llong i mewn i’r mwd. Cafodd rhai rhannau eu hachub ar y pryd, ond claddwyd ochr dde’r llong ym mwd yr afon, lle'r arhosodd am y 500 mlynedd nesaf. Mae dadansoddiad o'r pren yn awgrymu i hyn ddigwydd rywbryd wedi Gwanwyn 1468.
Nid Llong Casnewydd yw'r llong gyntaf i gael ei darganfod ar Y Gwastadeddau, ac nid hon yw'r hynaf.
Yn 1990, darganfu archeolegwyr ddarnau o gwch o'r Oes Efydd ger Castell Cil-y-Coed yn dyddio tua 1800 CC.
Yn 1993, dadorchuddiwyd dwy astell o gwch estyll gwnïedig o’r Oes Efydd mewn cloddfa archeolegol yn Allteuryn, yn dyddio tua 1000 CC. Math o gwch â gwaelod gwastad oedd cwch estyll gwnïedig gyda’r estyll pren wedi'u rhwymo â ffibrau planhigion. Defnyddiwyd llongau o'r fath i gludo pobl, nwyddau a da byw ar draws ac ar hyd afonydd llanw ac ar hyd arfordir yr aberoedd.
Yr un flwyddyn, darganfu gweithwyr a oedd yn adeiladu'r EuroPark ger Magwyr olion cwch Rhufeinig-Geltaidd o'r 4edd ganrif; Cwch Fferm Barlands. Yn rhyfeddol, roedd y llong, oedd yn mesur 11.4 x 3.2 x 0.9m, yn fwy neu lai yn gyfan ac yn rhannu rhai nodweddion â chychod o dde-orllewin Llydaw a ddisgrifiwyd gan Julius Caesar yn 56 CC.
Yn 1995, darganfuwyd llongddrylliad o'r 13eg ganrif yn y mwd ger Magor Pill. Roedd y llong estyllog wedi bod yn cludo mwyn haearn o Forgannwg ac fe’i drylliwyd yng ngheg yr afon, ger porthladd bach oedd yno bryd hynny.
Mae pob un o'r pedair llong wedi cael eu hadfer a'u cadw.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyfeillion Llong Casnewydd.
Gwefan