Rhewynau, ffosydd a gafaelion

Mae rheolaeth dŵr ar y Gwastadeddau yn dibynnu ar system ddraenio gymhleth sy'n ymestyn am dros 1500km, gyda rhai rhannau tua 2000 o flynyddoedd oed.

Mae glaw a dŵr ffo o'r ucheldiroedd amgylchynol yn creu tirlun gwlyb naturiol. Er mwyn ei gwneud yn ardal y gellir pobl ac anifeiliaid byw ynddo, datblygwyd system gysylltiedig o ffosydd agored i symud dŵr oddi ar y tir ac allan i'r môr.

Cafodd y ffosydd draenio cyntaf eu creu bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl gan y Rhufeiniaid, a oedd yn cydnabod pwysigrwydd y Gwastadeddau fel tir pori ar gyfer gwartheg a cheffylau. Gall Percoed Reen ar Wastadeddau Gwynllŵg fod o darddiad Rhufeinig.

Datblygwyd ac estynnwyd y system ddraenio ymhellach gan fynachod Priordy Allteuryn ac Abaty Tyndyrn yn yr Oesoedd Canol. Gwelir llawer o’u hymdrechion ar draws tirlun y Gwastadeddau hyd heddiw, yn enwedig o amgylch Porton, Trefonnen ac Allteuryn. Mae'r Monksditch, sy'n rhedeg o'r gogledd i'r de trwy Whitson, yn dyddio o'r cyfnod hwn. Mae wedi ei godi yn uwch na lefel y tir amgylchynol ac mae'n cludo dŵr o nant ucheldirol ar draws y Gwastadeddau ac allan i'r aber trwy Goldcliff Pill.

Mae ffosydd canoloesol yn tueddu i deithio ar draws y tirlun, o bosib yn dilyn llwybr nentydd naturiol a chilfachau llanw, a addaswyd gan y mynachod ar gyfer draenio. Fe greodd hyn batrwm o gaeau bach mewn siapiau afreolaidd o fewn yr hyn a elwir yn dirlun ‘heb ei gynllunio’. Mae ffosydd ôl-ganoloesol yn tueddu i fod yn syth ac yn rhan o dirlun ‘gynlluniedig’ - darnau mawr o dir a gafodd eu hadennill a’u draenio ar yr un pryd.

Gafaelion mewn caeau ger Y Redwig (Lefelau Byw)

Mae dŵr glaw yn cael ei symud o gaeau ar hyd rhwydwaith o ffosydd wyneb bas o'r enw gafaelion. Yna mae dŵr yn llifo i mewn i ffosydd caeau ac allan i sianeli mwy o'r enw rhewynau. Mae'r rhain yn eu tro yn llifo i brif rewynau, sy'n mynd â'r dŵr i lawr i'r morglawdd ac allan i'r aber trwy gatiau llanw o'r enw gowt. Ar lanw isel, mae dŵr croyw yn llifo allan trwy'r gowt, trwy fflap. Wrth i'r llanw ddod i mewn, mae dŵr y môr yn gwthio yn erbyn y fflap ac yn ei gau.

Mae’r system ddraenio gyfan bron yn cael ei bweru gan ddisgyrchiant yn unig, er bod rhai pympiau wedi'u defnyddio i ddraenio'r ardaloedd isaf o ffen gefn, yn Green Moor a Rhos Cil-y-Coed.

Peterstone Gout (giât llanw) (Leighton Baker)

‘Stank’ modern (C Harris)

‘Stank’ modern (C Harris)

Mae lefelau dŵr yn cael eu rheoli gan gyfres o goredau ar hyd y rhewynau, o'r enw ‘stanks’. Mae’r rhain yn caniatáu i lefelau dŵr gael eu gostwng yn ystod misoedd gwlyb y gaeaf a’u codi yn yr haf, gan greu’r glaswelltiroedd ffrwythlon y Gwastadeddau.

Mae system ddraenio’r Gwastadeddau yn creu cynefin gwych i fywyd gwyllt, o weision y neidr, glas y dorlan, llygod pengrwn y dŵr a dyfrgwn, i blanhigyn blodeuol lleiaf y byd, Wolffia arrhiza.

Mae’r rhwydwaith draenio wedi eu dosbarthu fel SoDdGA (Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig).