Castell Cil-y-Coed

Mae Castell godidog Cil-y-Coed wedi bod yn sefyll a gwarchod y Gwastadeddau ers dros 800 mlynedd.

Mae'r olion sydd i’w gweld heddiw yn dyddio o'r 13eg a'r 14eg ganrif, er i'r castell mwnt a beili cynharaf o bridd a phren gael ei adeiladu yn fuan ar ôl i'r Normaniaid oresgyn De Cymru yn yr 11eg ganrif i reoli Afon Nedern, a oedd unwaith yn fordwyol sawl milltir i'r mewndir.

Yn 1221, dechreuodd Humphrey de Bohun, Iarll Henffordd, adeiladu'r castell cerrig. Arhosodd y castell yn nheulu de Bohun am y 150 mlynedd nesaf, gan basio yn y pen draw trwy briodas i Thomas, Dug Caerloyw, mab Edward III. Adeiladodd ef y porthdy enfawr, Tŵr Woodstock a'r Giât Cilddor.

Yn dilyn Rhyfel Cartref Lloegr yn y 1640au, cafodd y castell ei ddifrodi a’i adael yn adfail. 

Cafodd y castell ei achub rhag dinistr yn 1855 gan Mr J.R. Cobb, a ailadeiladodd rannau o'r castell fel ei gartref teuluol. Yn 1963 prynwyd y castell gan y Cyngor Dosbarth ac mae bellach ar agor i'r cyhoedd.


Mwy o Wybodaeth

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am Gastell Cil-y-Coed.

Archwiliwch y castell a'r parc gwledig, neu dilynwch daith gylch i Sudbrook, Y Garreg Ddu a Phorthsgiwed.