Rick Turner
Gyda thristwch mawr fe wnaethom ffarwelio yn 2018 â'n annwyl gyfaill Rick Turner. Roedd Rick yn allweddol yn natblygiad rhaglen y Lefelau Byw o'r dyddiau cynnar ac roedd llawer o'n partneriaid a'n cyfeillion o'r gymuned yn mwynhau gwrando ar ei wybodaeth anhygoel a'i angerdd am hanes ac archeoleg Gwastadeddau Gwent. Mae ei syniadau wedi ysbrydoli llawer o'n prosiectau, yn enwedig y prosiect Adennill y Tirlun Hanesyddol, a fydd yn lansio yn 2019. Gobeithiwn y gall y prosiectau hyn ysbrydoli cenhedlaeth newydd o archeolegwyr ac ymchwilwyr arloesol i ddilyn yn ôl ei draed ac y byddwn yn eu cyflawni er cof amdano ac i’w anrhydeddu.
Mae’r Athro Martin Bell o Brifysgol Reading, cyfaill mawr i Rick a chyd-gyfrannwr i’r rhaglen Lefelau Byw, yn cofio Rick isod.
Rick Turner, BA, ASB, PhD, OBE
1952-2018
Chwaraeodd Rick Turner ran allweddol wrth sefydlu'r Prosiect Lefelau Byw gan gynghori ar agweddau Treftadaeth, roedd yn faes ac yn bwnc yr oedd yn angerddol amdano. Dyma oedd rhan olaf ei gyfraniad sylweddol i ymchwil archeolegol arfordirol a gwlyptir yng Nghymru, yn enwedig yn Aber Afon Hafren. Yn hyn roedd yn hyrwyddwr, yn gefnogwr, a phan oedd angen, yn actifydd. Gwnaeth lawer o gyfraniadau mawr eraill hefyd i archeoleg yng Nghymru a thu hwnt.
Daeth Rick o Burrow-in-Furness, Cymbria. Efallai bod y tirlun arfordirol trawiadol a'r newidiadau amgylcheddol amlwg yno yn ddiweddarach wedi ei helpu i werthfawrogi arwyddocâd y nodweddion hynny mewn ardaloedd eraill. Bu bron i agwedd gwahanol o Barrow, peirianneg forwrol, cipio ei yrfa. Aeth i Gaergrawnt i ddechrau astudio peirianneg ond newidiodd ar ôl blwyddyn i gwblhau ei radd mewn Archeoleg ac Anthropoleg. Ar ôl graddio bu’n gweithio fel cynorthwyydd mewn Archeoleg ym Mhrifysgol Caerhirfryn, yna fel syrfëwr archeolegol ar gyfer Nwy Prydain ar biblinau cyflenwi nwy Môr y Gogledd.
Symudodd i Gaer i weithio ar restru adeiladau hanesyddol, yna daeth yn Archeolegydd Sirol Swydd Gaer rhwng 1984-1989. Yno, chwaraeodd ran allweddol mewn llawer o brosiectau treftadaeth gan gynnwys dadansoddi a chyhoeddi'r Chester Rows (Brown et al 1999) ac astudio Melinau Tecstilau Dwyrain Swydd Gaer. Y prosiect Swydd Gaer fwyaf arwyddocaol yn rhyngwladol oedd darganfod cyrff cors Lindow Man. Roedd yr Amgueddfa Brydeinig dan arweiniad Dr Ian Stead yn rhan o'r dadansoddiad a ddilynodd ynghyd â'r arbenigwyr bioarchaeolegol JB Bourke a Don Brothwell. Defnyddiwyd ystod eithriadol o eang o dechnegau gwyddonol wrth astudio cyrff Lindow yn y monograff cyntaf (Stead et al 1986) a monograff dilynol a olygwyd gan Turner a Scaife (1995). Gosodwyd yr astudiaethau hyn safonau newydd sydd wedi trawsnewid dadansoddiad cyrff cors yng Ngogledd Orllewin Ewrop a chadw gweddillion dynol ledled y byd. Ni fyddai hyn wedi digwydd heb sylw Rick i fanylion wrth adfer y cyrff a’i barodrwydd i gynnwys ystod mor eang o wyddonwyr yn eu hastudiaeth.
Yn 1989 symudodd Rick i Cadw fel Arolygydd Henebion. Mae ei gydweithiwr yn Cadw Jonathan Berry yn ysgrifennu am synnwyr Rick o gyfrifoldeb am y prosiectau a reolai a ariannwyd yn gyhoeddus a'i benderfyniad i sicrhau bod penderfyniadau yn cael eu gwneud ar y cyngor gorau posibl. Roedd ganddo feddwl colegol, yn helpu ac yn cefnogi'r genhedlaeth newydd o arolygwyr. Gwnaeth gyfraniad mawr i Egwyddorion Cadwraeth Cadw ac ar ôl ymddeol, fel Arolygydd bu’n gweithio gyda thîm y Bil am ddwy flynedd ar Ddeddf Amgylchedd Hanesyddol Cymru. Mae'r cyfraniadau niferus hyn yn sicrhau bod ei etifeddiaeth wedi'i chadw'n gadarn ym mhob agwedd ar waith Cadw mewn henebion, canlyniadau achosion cadarnhaol, Egwyddorion Cadwraeth cyhoeddedig a llawer mwy.
Roedd yn gyfrifol am recordio a dadansoddi rhai o'r adeiladau hanesyddol pwysicaf yng Nghymru, gan gynnwys Palas Esgobion Tyddewi (Turner 2000), Castell Cas-gwent (Turner 2004; Turner a Johnson 2006) a gweithio ar Ffordd Caergybi Thomas Telford (Quartermaine et al 2003). Chwaraeodd ran flaenllaw mewn tri phrosiect cadwraeth a enillwyd gwobrau: Plas Mawr, Conwy; Tŷ Mawr, Powys; a Phalas Esgobion Tyddewi, Sir Benfro. Ysgrifennodd ganllawiau Cadw ar gyfer dau o’r rhain a sawl eiddo canoloesol eraill Cadw.
Yn ei waith yn Cadw llwyddodd i dynnu ar ei brofiad Lindow i annog ymchwil ar wlyptir ac archeoleg amgylcheddol. Goruchwyliodd gytundeb archeoleg amgylcheddol a oedd yn cael ei redeg gan Astrid Caseldine yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, fel yr adnabyddir ar y pryd. Ef oedd yr Arolygydd a oedd yn gyfrifol am waith archeolegol yn Aber Afon Hafren a goruchwyliodd lawer o gloddiadau gwlyptir sylweddol gan gynnwys Cil-y-Coed, a Magor Pill, dan arweiniad Mr (yr Athro bellach) Nigel Nayling a chloddiadau yn Allteuryn, Llanbedr Gwynllŵg a’r Redwig dan arweiniad yr ysgrifennwr. Roedd yn ymwybodol o bwysigrwydd y tirlun wedi ei adennill hanesyddol y tu ôl i'r morgloddiau a’r pwysigrwydd o gadw nodweddion tirlun arbennig yr ardal honno. Comisiynodd Dr (yr Athro bellach) Steven Rippon i gynnal dadansoddiad dirywiol o Wastadeddau Gwent ar sail tirwedd a map. Roedd hon yn astudiaeth arloesol mewn nodweddu tirlun hanesyddol sydd wedi arwain at warchod tirluniau hanesyddol yn yr ardal hon yn fwy effeithiol ac yn ehangach. O'r 9 monograff a gyhoeddwyd ar archeoleg Aber Afon Hafren roedd Rick Turner yn gyfrifol am gomisiynu'r gwaith a gynhwysir mewn 6 ohonynt (roedd y lleill yng Ngwlad yr Haf, neu yn achos Fferm Barland a ariennir yn fasnachol). Ochr yn ochr ag eraill, chwaraeodd ran hefyd i sicrhau adferiad, dadansoddiad a chadwraeth barhaol Llong Casnewydd lle darparwyd adnoddau sylweddol gan Lywodraeth Cynulliad Cymru.
Roedd Rick yn aelod allweddol o Bwyllgor Llywio Pwyllgor Ymchwil Gwastadeddau Aber Hafren am 28 mlynedd o 1990 hyd ei farwolaeth a chwaraeodd ran weithredol iawn ym mhopeth a wnaeth y pwyllgor. Dywedodd bob amser ei fod yn ymwneud â hyn oherwydd ei fod yn hwyl a bod yr ymdeimlad cadarnhaol hwnnw o fwynhad yn treiddio trwy ei waith yn gyffredinol. Cynorthwyodd i drefnu cynhadledd yn y Fenni yn 2000 a wnaeth bwyso a mesur degawd o ymchwil archeolegol yn yr Aber ac edrych i'r dyfodol (Rippon 2000) a hefyd trefnodd gynhadledd yn dilyn yn 2010 yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ar thema Pysgota a Llongau . Bu hefyd yn golygu Archaeology in the Severn Estuary, cyf 21 a 22.
Roedd Rick Turner yn rhywun a oedd yn cyflawni pethau. Pan oedd Ail Groesfan Hafren yn cael ei gynllunio, roedd angen amlwg am arolwg archeolegol o'r ardal yr oedd am effeithio. Ni chynhaliwyd arolwg rhynglanwol ar ochr Lloegr. Ar ochr Cymru roedd Derek Upton eisoes wedi gwneud rhai darganfyddiadau a gofynnwyd am ddatganiad o ddiddordeb ar gyfer arolwg archeolegol. Nid oedd yr un o'r rhai a gyflwynwyd yn briodol; un cyfarwyddyd arfaethedig gan archeolegydd yn sefyll ar y morglawdd gydag ysbienddrych. Yn hytrach na rhoi’r ffidil yn y to, daeth Rick i’r adwy a chymryd awenau yr arolwg ei hun, gyda chymorth Stephen Godbold ac eraill. Roedd y canlyniadau yn drawiadol: darganfod llawer o drapiau pysgod canoloesol a rhai basgedi wedi’u gwehyddu (Godbold a Turner 1994). Yn dilyn hynny darganfuwyd trapiau pysgod canoloesol yn helaeth o amgylch arfordiroedd Prydain ac Iwerddon. Cyhoeddodd yn ehangach ar drapiau pysgod canoloesol a gwerth cadw arferion pysgota traddodiadol. Yn ddiweddarach pan arweiniodd erydiad difrifol o amgylch y bont at ddatguddio llawer mwy o drapiau canoloesol comisiynodd Dr Alex Brown i recordio a dadansoddi ac yn ddiweddarach comisiynodd Alex hefyd i wneud arolwg palaeoamgylcheddol o Goed Gwent.
Cafodd Rick OBE yn 2012 am wasanaethau i henebion Cymru, ac fe ymddeolodd o Cadw yn 2014. Ers hynny mae wedi parhau i fod yn rhan o astudiaeth adeiladau hanesyddol ac wedi helpu Ymddiriedolaeth Natur Gwent a'r Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar ar gais Cronfa Dreftadaeth y Loteri ar gyfer y Prosiect Lefelau Byw a lansiwyd yn llwyddiannus ychydig cyn ei farwolaeth. Fel pe bai angen prawf pellach o’i rinweddau holl wybodus, un arall o’i brosiectau ymddeol oedd traethawd PhD yn yr Adran Hanes ym Mhrifysgol Abertawe, ‘Sir Gawain, the Virgin Mary and St Winefride: Cult and Chivalry in the late Middle Ages’. Cafodd y PhD bythefnos cyn ei farwolaeth a ddilynodd wedi brwydr â chanser.
Yn y bôn, roedd Rick yn berson diymhongar a gwylaidd a wnaeth gymaint i annog a hwyluso gwaith pobl eraill. Fe lwyddodd, efallai yn fwy llwyddiannus nag unrhyw un arall o'i genhedlaeth, i gyfuno dyletswyddau cynyddol heriol fel Arolygydd Henebion gyda'i ymchwil a'i gyhoeddiad gwreiddiol ac arloesol ei hun a gynhaliwyd i'r safonau academaidd uchaf. Bydd adeiladau a thirluniau hanesyddol Cymru, yn ogystal â phob archeolegydd arfordirol a gwlyptir, yn ddyledus iddo am byth.
Yr Athro Martin Bell
Cyfeiriadau:
A. Brown, P. de Figueiredo, R. Harris, J. Grenville, J. Laughton, A. Thacker and R. Turner, 1999, The Rows of Chester, English Heritage.
S. Godbold and R. C. Turner 1994, ‘Medieval Fishtraps in the Severn Estuary’, Medieval Archaeology, 38, 19-54.
J Quartermaine, B Trinder and R C Turner 2003, Thomas Telford’s Holyhead Road: The A5 in north Wales, CBA Research Report, no 135.
S.J. Rippon 2000 Estuarine Archaeology: the Severn and Beyond. Archaeology in the Severn Estuary 11. Exeter: SELRC.
I M Stead, D Brothwell and J Bourke 1986, Lindow Man: the Body in the Bog, British Museum Press.
R C Turner and R Scaife (eds) 1997 Bog Bodies: New Discoveries and New Perspectives, British Museum Press.
R C Turner 2000, ‘St Davids Bishops Palace’, Antiquaries Journal, 80, 147- 236
R C Turner 2004, ‘The Great Tower, Chepstow Castle, Wales’, Antiquaries Journal, 84, 1-96
R C Turner and A Johnson (eds) 2006, Chepstow Castle: its history and buildings, Logaston Press.