Straeon o’r Gwastadeddau
Archwilio tirlun, hanes a bywyd gwyllt Gwastadeddau Gwent
Tirlun
Mae rheolaeth dŵr ar y Gwastadeddau yn dibynnu ar system ddraenio gymhleth sy'n ymestyn am dros 1500km, gyda rhai rhannau tua 2000 o flynyddoedd oed.
Mae gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Ymchwil a Thrawsgrifio (RATS) wedi bod yn gweithio'n ddyfal yn datgelu gwybodaeth archif anhygoel am Wastadeddau Gwent. Dyma’r gwirfoddolwr Cath Davis i ddatgelu popeth am nodwedd bwysig ar Wastadeddau Gwynllŵg.
Y tu hwnt i'r morglawdd mae anialwch gwlyb o forfeydd heli, fflatiau llaid a llethrau tywod, a dyfroedd anferth yr Aber Afon Hafren, sy’n llwythog o silt.
Adeiladwyd eglwys fach blwyf y Santes Fair Magdalen yn gynnar yn y 15fed ganrif ar ôl i’r eglwys ym Mhriordy Allteuryn, a oedd hefyd yn gwasanaethu’r plwyf, gael ei dinistrio gan storm yn 1424.
Mae cysylltiad agos rhwng hanes eglwys y Santes Fair, Trefonnen, a adnabyddir yn lleol fel “Eglwys Gadeiriol y Rhostiroedd”, â'r Priordy Benedictaidd canoloesol cyfagos yn Allteuryn.
Yn ystod ei hanes maith, cysegrwyd eglwys blwyf y Redwig i sawl sant gwahanol; Santes y Forwyn Fair cyn 1875 a chyn hynny Sant Mihangel yr Archangel.
Cafodd y dull traddodiadol yma o bysgota eogiaid trwy ddefnyddio rhwydi gafl ei gofnodi am y tro cyntaf ar Aber Hafren yn y 1700au, ond bron yn sicr yn bodoli cyn hyn.
Mae pysgota ‘putcher’ yn ddull traddodiadol o ddal eog a physgod eraill, sy'n dyddio'n ôl i o leiaf y canoloesoedd, ac efallai cyn hynny.
Mae safle picnic Y Garreg Ddu yn cynnig golygfeydd panoramig ysblennydd o Aber Afon Hafren a'r ddwy bont.
Crëwyd Morlynnoedd Allteuryn yn y 1990au hwyr ac maent yn ffurfio ochr ddwyreiniol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
Mae Pont Gludo Casnewydd yn rhyfeddol, ac yn un o ddim ond chwech yn y byd o'i fath sy'n dal i weithredu o gyfanswm o ugain a gafwyd eu hadeiladu.
Cors Magwyr yw un o rannau olaf o gorstiroedd ar Wastadeddau Gwent, tirlun sydd wedi bodoli yma ers miloedd o flynyddoedd.
Mae'r plasty mawreddog hwn yn un o dai y 17eg ganrif fwyaf pwysig yn hanesyddol ym Mhrydain, cartref y teulu Morgan ers dros 500 o flynyddoedd.
Mae eglwys bentref Trefesgob yn fwy na 600 mlwydd oed. Ac eto mae ei enw llawn - Eglwys Sant Cadwaladr - yn dangos gwreiddiau llawer hŷn.
Mae gwarchodfa natur Dolydd Great Traston yn enghraifft o gors pori, math traddodiadol o dirlun ar y Gwastadeddau.
Yn eistedd ar ymyl Gwastadeddau Gwent, rhwng ehangder Aber Afon Hafren, ceg Afon Wysg a dinas Casnewydd, gorweddai Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
Hanes
Mae'r flwyddyn 2021 yn nodi can mlynedd ar hugain ers marwolaeth drasig Louisa Maud Evans.
Mae pobl wedi bod yn croesi Aber Hafren ers miloedd o flynyddoedd. Hyd nes datblygu ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi o safon, yn aml dyma'r ffordd gyflymaf o gludo pobl, anifeiliaid a nwyddau dros gryn bellter.
Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, i gofnodi ffiniau caeau, ffosydd draenio ac amddiffynfeydd môr.
Dros y degawdau diwethaf mae darganfyddiadau archeolegol anhygoel wedi eu canfod yng Ngwastadeddau Gwent wedi.
Yn 1993, gwnaeth archeolegwyr ddarganfyddiad rhyfeddol wrth weithio ar ddatblygiad canolfan storio i archfarchnad ar safle Fferm Barland, ger Magwyr.
Ar ddiwedd y 1920au roedd posibiliadau hedfan yn dechrau datblygu, ac roedd Caerdydd yn benderfynol o fod yn rhan o’r ras.
‘Brinker’ yw hen air unigryw o’r ‘Levels lingo’ am berson sy'n berchen ar dir ar un ochr i ffos, clawdd neu gilfach ac sy'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw.
Mae Castell godidog Cil-y-Coed wedi bod yn sefyll a gwarchod y Gwastadeddau ers dros 800 mlynedd.
Yn 2002, yn ystod adeiladu Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd ar lan orllewinol Afon Wysg, darganfuwyd gweddillion llong o'r 15fed ganrif.
Gall mapiau ddatgelu llawer wrthym am hanes ein tirlun, os ydych chi'n deall sut i'w ‘darllen’.
Tua 1113, rhoddodd Arglwydd Normanaidd Caerllion, Robert de Chandos, dir yn Allteuryn i Abaty Bec, ger Rouen yn Ffrainc, a fyddai’n sylfaen i Briordy Benedictaidd Santes Mair Magdalen.
Mae’r ffilm fer ‘The Severn Estuary Through Time’ yn dangos sut mae'r Aber, ei fywyd gwyllt a'r bobl oedd yn byw gerllaw, wedi ffurfio’i gilydd dros filoedd o flynyddoedd.
Dychmygwch sefyll yn agos i’r morglawdd yn Allteuryn 10,000 mlynedd yn ôl. Beth fyddech chi'n ei weld?
Ar 30 Ionawr 1607, cafodd morgloddiau y naill ochr i Aber Afon Hafren eu boddi gan ddŵr llifogydd.
Yn 1531, pasiodd y brenin Harri VIII y Ddeddf Carthffosydd, gan greu Comisiynwyr a Llysoedd Carthffosydd i oruchwylio'r gwaith o reoli corstiroedd arfordirol, tir amaethyddol cynhyrchiol ond yn dueddol o gael llifogydd.
Yn 1878, darganfuwyd carreg wedi'i arysgrifio o gyfnod Rhufeinig ger morglawdd Allteuryn, a elwir yn 'Carreg Allteuryn'.
Bywyd Gwyllt
Yn 2019, ar ôl absenoldeb o dros 200 mlynedd, gwelwyd adar y bwn yn bridio ar Wastadeddau Gwent unwaith eto.
Ewch am dro ar y Gwastadeddau ddiwedd Ebrill neu ddechrau Mai ac efallai y byddwch yn ddigon ffodus i ddod ar draws un o'n pryfed harddaf, Gwas Neidr Flewog (Brachytron pratense).
Llygoden bengron y dŵr, Arvicola amphibius, yw’r fwyaf o’i rhywogaeth ym Mhrydain yn ogystal â bod yn rhywogaeth gwlyptirol eiconig.
Ewch i lawr i Wlyptiroedd Casnewydd ychydig cyn iddi nosi yn yr Hydref neu'r Gaeaf a gallech weld un o’r arddangosfeydd mwyaf ysblennydd natur – cawod o ddrudwy.
Ar ôl absenoldeb o tua 400 o flynyddoedd, mae garanod (Grus grus) yn nythu unwaith eto ar y Gwastadeddau.