Yn ystod ei hanes maith, cysegrwyd eglwys blwyf y Redwig i sawl sant gwahanol; Santes y Forwyn Fair cyn 1875 a chyn hynny Sant Mihangel yr Archangel.
Mae hon yn eglwys fawr i bentref mor fach ac mae ganddi lawer o nodweddion diddorol. Mae'r adeilad yn dyddio o'r 13eg a’r 15fed ganrif, er efallai yn tarddu o'r 12fed ganrif. Cafodd ei adfer yn 1875 pan ailadeiladodd y pensaer John Norton y wal orllewinol a gosod ffenestr fawr.
Wrth i chi fynd i mewn i'r eglwys, edrychwch am ddeialau sydd wedi'u harysgrifio ar ategwaith y cyntedd. Deialau haul syml yw’r deialau hyn, a adnabyddir yn Saesneg fel mass, scratch neu tide dials, ac fel rheol, ond nid bob amser, maent i'w cael ar ochr ddeheuol eglwysi. Mae dau marcwyr llifogydd hefyd, sy'n nodi uchder y llanw yn ystod Llifogydd Mawr 1606/07.
Wrth i chi archwilio tu mewn i'r eglwys, edrychwch am y fedyddfaen o’r 13eg ganrif, cerfiad o ddyn gwyrdd, ac olion croglen ganoloesol (sgrin bren addurnedig sy'n gwahanu'r ardal o amgylch yr allor o gorff yr eglwys) a llofft croglen (balconi uwchben y sgrin a ddefnyddiwyd i arddangos croes a cherfluniau o seintiau).
Mae yna hefyd fedyddfa ar gyfer llwyr ymdrochiad, nodwedd anarferol i eglwys Anglicanaidd a all ddyddio o'r 18fed ganrif, er y gallai fod wedi'i hadeiladu yn ystod adferiad yr eglwys yn 1875. Gan fod yr eglwys wedi ei hadeiladu yn agos at lefel y môr, mae'r fedyddfa yn llenwi â dŵr yn naturiol wedi glaw trwm.
Mae chwe chloch yn y tŵr, gan gynnwys dwy sy'n dyddio o tua 1350. Yn 1987, cludwyd y clychau i Whites of Appleton yn Swydd Rhydychen, i'w ail-diwnio. Darganfuwyd bod dwy o'r clychau o'r 18fed ganrif wedi hollti ac fe'u hanfonwyd i ffowndri Whitechapel yn Llundain i'w ail-gastio. Dychwelwyd y clychau i’r Redwig yn 1991 a'u gosod mewn ffrâm ddur newydd. Ailgysegrwyd y clychau gan Esgob Mynwy, Y Gwir Barchedig Clifford Wright ar yr 8fed o Fai, 1991.
Sant Thomas oedd un o’r ychydig o eglwysi yng Nghymru a ddioddefodd ddifrod bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, pan ddifrodwyd y to a chwalwyd y ffenestri.
OS cyfeirnod grid: ST 412 841