Llygoden bengron y dŵr (Peter Trimming)
Pwll, Cors Magwyr (Chris Harris)
Glas y Dorlan, Cors Magwyr (Chris Harris)
Dôl wlyb, Cors Magwyr (Chris Harris)
Gwäell rudd, Cors Magwyr (Chris Harris)
Crehyrod bach, Cors Magwyr (Chris Harris)
Cors Magwyr yw un o rannau olaf o gorstiroedd ar Wastadeddau Gwent, tirlun sydd wedi bodoli yma ers miloedd o flynyddoedd.
Mae gan y warchodfa gymysgedd amrywiol o gynefinoedd, gan gynnwys dolydd gwair llaith, corstir hesg, corslwynni, coetir gwlyb, prysgwydd, dŵr agored, a llawer o ffosydd llawn dŵr. Caiff lefelau dŵr eu cynnal gan ffynhonnau o dan y ddaear ac fe'u cedwir yn uchel trwy reoli'r rhewynau yn ofalus.
Mae'r nifer wahanol yma o gynefinoedd yn denu amrywiaeth eang o fywyd gwyllt; cadwch lygad allan am y crëyr bach, glas y dorlan a thelor Cetti yn y pwll, gweision y neidr ar hyd y rhewynau a'r ffosydd, a gloÿnnod byw yn y dolydd.
Wrth i chi ddilyn y llwybr wrth ymyl y ffos, chwiliwch am arwyddion o lygod pengrwn y dŵr. Ailgyflwynwyd y mamal brodorol yma i'r warchodfa yn 2012/13, pan gafodd dros 200 eu rhyddhau. Y llygoden bengron y dŵr yw’r mamal sy'n dirywio cyflymaf yn y Derynas Unedig; y gobaith yw y gwelwn anifeiliaid a ryddheir yng Nghors Magwyr yn gwasgaru ar draws y Gwastadeddau gan ddefnyddio'r rhwydwaith o ffosydd cysylltiedig.
Cors Magwyr oedd gwarchodfa natur gyntaf yr Ymddiriedolaeth, a brynwyd yn 1963.
Ymddiriedolaeth Natur Gwent sy'n berchen ac yn rheoli Cors Magwyr. Mae'n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.
Adeiladwyd eglwys fach blwyf y Santes Fair Magdalen yn gynnar yn y 15fed ganrif ar ôl i’r eglwys ym Mhriordy Allteuryn, a oedd hefyd yn gwasanaethu’r plwyf, gael ei dinistrio gan storm yn 1424.
Mae cysylltiad agos rhwng hanes eglwys y Santes Fair, Trefonnen, a adnabyddir yn lleol fel “Eglwys Gadeiriol y Rhostiroedd”, â'r Priordy Benedictaidd canoloesol cyfagos yn Allteuryn.
Yn ystod ei hanes maith, cysegrwyd eglwys blwyf y Redwig i sawl sant gwahanol; Santes y Forwyn Fair cyn 1875 a chyn hynny Sant Mihangel yr Archangel.
Mae Castell godidog Cil-y-Coed wedi bod yn sefyll a gwarchod y Gwastadeddau ers dros 800 mlynedd.
Mae safle picnic Y Garreg Ddu yn cynnig golygfeydd panoramig ysblennydd o Aber Afon Hafren a'r ddwy bont.
Crëwyd Morlynnoedd Allteuryn yn y 1990au hwyr ac maent yn ffurfio ochr ddwyreiniol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd.
Yn 2002, yn ystod adeiladu Canolfan Gelfyddydau Glan yr Afon Casnewydd ar lan orllewinol Afon Wysg, darganfuwyd gweddillion llong o'r 15fed ganrif.
Mae Pont Gludo Casnewydd yn rhyfeddol, ac yn un o ddim ond chwech yn y byd o'i fath sy'n dal i weithredu o gyfanswm o ugain a gafwyd eu hadeiladu.
Cors Magwyr yw un o rannau olaf o gorstiroedd ar Wastadeddau Gwent, tirlun sydd wedi bodoli yma ers miloedd o flynyddoedd.
Mae'r plasty mawreddog hwn yn un o dai y 17eg ganrif fwyaf pwysig yn hanesyddol ym Mhrydain, cartref y teulu Morgan ers dros 500 o flynyddoedd.
Oriau agor
Ar agor bob amser.Sut i gyrraedd yno
Ar drafnidiaeth gyhoeddus
Ar feic
Yn y car
Map Trysor y Cof
Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof sy'n cynnwys gwybodaeth am beth i’w weld yno a gweithgareddau i helpu'ch dosbarth neu'ch teulu i ddysgu mwy am bob lle.