Ymdeimlad o Le

IMG_9359.jpg

Mae’r pecyn cymorth hwn yn cyfleu llawer o brofiadau pobl, atgofion maen nhw’n eu casglu, straeon maen nhw’n eu clywed a lleoliadau maen nhw’n eu harchwilio. Mae’n tynnu sylw at sut y gellir defnyddio’r rhain i hyrwyddo ac ennyn diddordeb pobl mewn gwahanol ffyrdd â’u hamgylchedd. Trwy ddathlu Gwastadeddau Gwent, gallwch ddatblygu eich sefydliad neu fusnes i ymgysylltu’n ehangach â phobl yr ardal. Bydd elwa ar yr hyn sy’n arbennig ac unigryw am yr ardal hefyd yn helpu i ddatblygu mantais gystadleuol gynaliadwy i’ch sefydliad, cymuned neu fusnes.

Adnodd yw’r pecyn hwn sy’n darparu casgliad o leoliadau i ymweld a golygfeydd i’w profi, ynghyd â syniadau a straeon a gasglwyd gan bobl a chymunedau lleol sy’n rhoi blas o’r ardal. Os yw pwnc penodol o ddiddordeb i chi, neu i’ch sefydliad, gallwch archwilio’r adran honno’n fwy manwl. Efallai y bydd adrannau eraill hefyd yn rhoi blas i chi o beth arall sydd i’w ddatgelu a’i archwilio. Gallai hyn ddarparu syniadau ar sut y gallech ddatblygu ac adeiladu eich sefydliad i ymgysylltu â mwy o bobl neu gryfhau cysylltiad y gymuned â chi.

Rhennir y pecyn hwn yn adrannau sy’n canolbwyntio ar wahanol rinweddau Gwastadeddau Gwent. Efallai yr hoffech chi gryfhau eich dealltwriaeth o un adran, neu edrych ar wahanol adrannau i ehangu eich gwybodaeth am yr ardal.


Lawrlwythwch Becyn Cymorth Ymdeimlad o Le

SenseOfPlaceToolkit-Cymraeg_FINAL-WEB-1.jpg

Pecyn Cymorth Ymdeimlad o Le Gwastadeddau Gwent i Lysgenhadon

Mae’r llyfryn hwn yn darparu gwybodaeth ac awgrymiadau lu am sut i archwilio hyfrydwch y tirlun unigryw hwn.

(68pp PDF 5.3MB)

SenseOfPlaceToolkit-Cymraeg-20pp_FINAL-WEB-1.jpg

Darganfod Gwastadeddau Gwent

Arweiniad cryno i’w hanes, bywyd gwyllt a thirluniau.

(20pp PDF 4.2MB)


Fideos y Pecyn Cymorth

Beth yw ymdeimlad o le?

Syniad ymdeimlad o le yw bod gan bob ardal hunaniaeth a hynodrwydd sy’n ei gwneud yn wahanol i bobman arall.

Mae lle yn creu gwahanol brofiadau ac emosiynau i bobl, a thrwy gysylltu’r teimladau hyn â lle, rydyn ni’n teimlo ymdeimlad o berthyn i’r ardal honno, p’un a ydyn ni’n byw neu’n gweithio yno neu dim ond yn ymweld. Mae’r gwahanol olygfeydd, synau, arogleuon a blasau a brofwn wrth i ni deithio trwy dirlun, gan werthfawrogi’r hanes a chlywed y straeon unigryw sy’n deillio o’r lle hwnnw, i gyd yn cyfrannu at ymdeimlad o le.

Mae’r cyfuniad o fywyd gwyllt, pensaernïaeth, golygfeydd a’r amgylchedd yn datblygu ymdeimlad unigryw o le, teimlad y bydd pobl yn mynd gyda nhw ble bynnag maent yn mynd. Dyma’r emosiynau a’r profiadau y byddwn yn defnyddio i ddisgrifio’r lle i rywun dieithr i’r ardal, ac sy’n sail i gysylltiad sylfaenol â’r ardal.