Perllannau ar y Gwastadeddau
Ar un adeg roedd perllannau yn rhan annatod o amaethyddiaeth a threftadaeth Gwastadeddau Gwent.
Perllannau Traddodiadol ar y Gwastadeddau
Mae mapiau OS manwl o 1888-1913 yn dangos fod gan y mwyafrif o ffermydd a thyddynnod berllan, rhai yn fwy nag eraill, a bod yr ardal hon ar y cyfan wedi cynhyrchu cryn dipyn o ffrwythau, yn debyg i rai'r Gwastadeddau Gwlad yr Haf a Swydd Henffordd.
O adroddiadau a chofnodion hanesyddol, tebyg i ewyllysiau, cyfrifiadau, biliau gwerthu a chofnodion plwyf, gallwn ddarganfod pwysigrwydd y cnwd hwn. Trowyd llawer o’r ffrwythau yn seidr a rhoddwyd seidr i weithwyr amaethyddol mudol yn aml fel rhan o’u taliad (y ‘system dryc’). Mae’n ymddangos mai’r rheol gyffredinol oedd: gorau bo’r seidr a gynhyrchir, gorau bo’r gweithiwr a ddenir!
Mae gennym hefyd gyfrifon sy'n dangos rhestrau o goed, maint o seidr a storiwyd, a’r mathau o offer gwneud seidr a gadwyd. Roedd yna hefyd wasg seidr symudol a deithiodd o fferm i fferm yn gwasgu seidr ar gyfer y rhai nad oedd ganddyn nhw eu hoffer eu hunain, yn ogystal â pheiriannau canio ffrwythau a rannwyd gan ffermwyr lleol. Mae Lefelau Byw wedi casglu hanesion llafar o nifer o bobl leol ac mae llawer o adroddiadau yn tystio i'r arferion hyn hyd at y 1950au a'r 1960au.
Cymerwyd ffrwythau o’r ffermydd hefyd i bentrefi, trefi a marchnadoedd cyfagos a’u gwerthu fel cnwd arian parod fel cymhorthdal i incwm ffermydd. Yn ddiweddarach, cludwyd ffrwythau i Swydd Henffordd a'u prosesu yn seidr mewn ffatrïoedd mawr.
Mae gwahanol fathau o goed ffrwythau yn cynhyrchu ffrwythau ar wahanol adegau o'r tymor, felly byddai'r mwyafrif o berllannau gyda detholiad o amrywiaeth o ffrwythau er mwyn ymestyn yr amser cynhyrchu o ddiwedd yr haf hyd at ganol y gaeaf. Byddai rhai yn aeddfedu o afalau coginio i afalau bwyta, ac eraill yn berffaith i'w storio; byddai'r rhain yn cael eu storio mewn hambyrddau o dywod a'u bwyta trwy ddiwedd y gaeaf ac ymlaen i'r gwanwyn nesaf.
Mae'n ddiddorol nodi bod perllannau ar y Gwastadeddau wedi'u plannu mewn dull gwahanol i'r mwyafrif o berllannau eraill. Mae'r dechneg hon o blannu yn gysylltiedig â'r tirlun unigryw a'i rhwydwaith o ddyfrffyrdd. Yn draddodiadol, byddai caeau yn cael eu draenio gan ddefnyddio grid o ffosydd bas o’r enw ‘grips’. Wrth gloddio’r pridd yn y ffosydd, fe’u defnyddiwyd i ffurfio cefnennau, gan greu effaith cefnen a rhych . Yna plannwyd coed ffrwythau ar y cefnennau i ddyrchafu eu gwreiddiau o'r tir gwlyb gymaint â phosib.
Mae ychydig o berllannau wedi'u lleoli'n agos iawn at y morglawdd ac mae'n ymddangos bod y coed yn gallu gwrthsefyll yr aer hallt. Maent yn ffurfio cynefin micro sy'n cynnal amrywiaeth o anifeiliaid di-asgwrn-cefn na fyddai fel rheol i'w cael mor agos at y môr.
Dirywiad perllannau Lefelau
Dros amser mae pwysigrwydd perllannau wedi cilio am amryw o resymau. Ymddengys mai’r foment dyngedfennol oedd y Ddeddf Diwygio Tryciau 1887, a oedd yn gwahardd bwyd neu ddiod fel rhan o daliadau cyflog llafurwyr.
Ar ôl y rhyfel pan oedd prinder bwyd yn eang ar draws Prydain, canolbwynt cymorthdaliadau amaethyddol oedd sicrhau cynnyrch cnwd uwch, yn enwedig grawn, ac o ganlyniad peidiodd llawer o gynhyrchu eang ar raddfa fach â bod yn fasnachol hyfyw. Roedd cynnydd uwch o beirianwaith mewn ffermio yn golygu llai o lafur ar ffermydd a phwysigrwydd seidr wrth i gnwd ddirywio.
Dros amser collwyd llawer o sgiliau perllannau a thechnegau cynhyrchu seidr traddodiadol. Roedd gan weithwyr ar ôl yr ail ryfel byd fwy o ddiddordeb mewn taliadau arian parod. Newidiodd chwaeth yfed gan symud i ffwrdd o seidr traddodiadol tuag at gwrw a seidr a gynhyrchwyd yn fasnachol. Cafodd perllannau eu palu, eu gadael i dyfu'n wyllt neu eu defnyddio fel padog ar gyfer stoc, a gan amlaf eu gorbori.
Perllannau ar gyfer bywyd gwyllt
Bu newid anfwriadol mewn pwysigrwydd perllannau, o gynhyrchu ffrwythau gydag incwm deilliedig, i ddarparu noddfa i gymunedau amrywiol o blanhigion ac anifeiliaid, na welir yn aml mewn mannau eraill.
Mae ffrwythau wedi disgyn yn darparu bwyd ar gyfer amrywiaeth o greaduriaid fel adar, mamaliaid bach a phryfed. Mae coed hefyd yn darparu cysgod, mannau nythu a chlwydo, a chuddfannau. Wrth i goed dyfu a heneiddio maent yn cynnig cartref i gymuned gyfan o organebau saproffyt ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn saproscylig sy'n bwydo'n gyfan gwbl ar bren marw neu bren sy'n pydru.
Yn fwy diweddar, yng nghyd-destun yr argyfwng bioamrywiaeth fyd-eang ac argyfwng hinsawdd, mae’r ffocws bellach ar bwysigrwydd bwyd a gynhyrchir yn lleol, lleihau'r pellter y mae bwyd neu gynhwysion yn teithio, ac amrywiaeth a all wrthsefyll amodau tywydd eithafol a phlâu, ynghyd â diogelu bioamrywiaeth ac adnoddau biolegol fel y pryfed hollbwysig sydd eu hangen i beillio cnydau. Mae perllannau traddodiadol yn darparu cynefinoedd a lefelau cynhyrchu priodol, yn enwedig ar draws tirlun fel Gwastadeddau Gwent, i helpu i wynebu rhai o'r heriau newydd hyn.
Treftadaeth ddiwylliannol
Mae mathau traddodiadol o goed ffrwythau o Gymru, fel Morgan Sweet, Birth Mawr, St. Cecilia, a Llanarth Early (Gellyg) - llawer ohonyn nhw’n brin ac yn unigryw i ardaloedd lleol - yn bwysig am eu gwerth treftadaeth yn ogystal ag amrywiaeth genetig. Mae plannu coed newydd ac ailosod y rhai a gollwyd yn rhan hanfodol o warchod perllannau traddodiadol a gwarchod amrywiaeth genetig.
Prosiect Perllannau Lefelau Byw
Mae Lefelau Byw wedi bod yn cefnogi perchnogion perllannau i adfer ac ailgyflenwi perllannau coll Gwastadeddau Gwent, diogelu adnodd genetig pwysig a diogelu'r planhigion a'r anifeiliaid sy'n byw ar y safleoedd hyn - mae o leiaf 25 o berllannau hefyd yn Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SoBCN).
Gan ddefnyddio mapiau hanesyddol i ddod o hyd i safleoedd perllannau, mae Swyddog Perllannau ymroddgar y Lefelau Byw wedi bod yn ymweld â thirfeddianwyr ar draws y Gwastadeddau i gasglu gwybodaeth ar leoliad am y mapiau hyn a darganfod pa berllannau sy’n dal i fodoli a’u cyflwr. Cymerwyd samplau DNA er mwyn adnabod a mapio’r amrywiaeth o ffrwythau a geir ym mhob perllan. Mae samplau o ganghennau o rai o'r mathau mwyaf prin hefyd wedi'u himpio mewn meithrinfa leol i ddiogelu a lluosogi'r cyflenwad hwn.
Hefyd, cynlluniwyd rhaglen i ailblannu gyda ffrwythau lleol a gafwyd gan Gymdeithas Perai a Seidr Cymru. Hyd yn hyn, mae 174 o goed wedi'u plannu mewn 29 o berllannau ar draws y Gwastadeddau, gan eu gwneud yn fwy cynaliadwy a hyfyw ar gyfer y dyfodol. Mae hyn yn bennaf mewn perllannau preifat, ond mae dwy berllan gymunedol y gall y cyhoedd ymweld â nhw wedi'u plannu ym Magwyr a Gwndy, ac yn Nyffryn. Yn ogystal, crëwyd perllannau mewn ysgolion yng Nghas-gwent a Llaneirwg fel y gall plant ddysgu mwy am fwyd a threftadaeth leol.
Mae rhai perllannau a oedd mewn cyflwr gwael iawn hefyd wedi'u torri'n ôl a'u tocio i'w gwneud yn hawdd i’w trin. Mae cynlluniau rheoli i gynnal y perllannau hyn yn cael eu hysgrifennu i helpu tirfeddianwyr i'w rheoli yn y dyfodol ac mae hyfforddiant wedi'i drefnu ar gyfer tocio a chynnal a chadw i gefnogi hyn.
Er y bydd llawer o berllannau'n parhau i gael eu defnyddio ar gyfer gweithgareddau hamdden a chynhyrchu sudd ffrwythau a seidr ar raddfa fach, y dyhead yn y pen draw yw adfywio cynllun rhannu ffrwythau sy'n galluogi cynhyrchu sudd ffrwythau a seidr lleol sy'n dathlu treftadaeth perllannau arbennig y Gwastadeddau.
Helpwch ni i adfywio a dathlu perllannau traddodiadol Gwastadeddau Gwent
Gall perllannau traddodiadol fod yn werthfawr trwy gynnal ystod anhygoel o blanhigion ac anifeiliaid. Maen nhw hefyd yn werthfawr dros ben i bobl oherwydd y bwyd maen nhw'n ei gynhyrchu a'r mathau o ffrwythau treftadaeth sydd ynddyn nhw.
Nod cyffredinol y prosiect yw cofnodi, amddiffyn ac adfer perllannau traddodiadol ar Wastadeddau Gwent.
Mapio perllannau presennol
Cefnogi perchnogion i gynnal ac adfer perllannau
Plannu coed newydd
Prawf DNA ar hen goed
Arolygu perllannau
Tanio brwdfrydedd perchnogion perllannau a chymunedau
Addysgu a hyfforddi
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â Beccy Williams, Swyddog Perllannau Lefelau Byw, neu dilynwch y ddolen isod i weld sut y gallwch chi gymryd rhan yn y prosiect.