“Lefelwr ydw i.”

- John Southall, Arweinydd Tîm Draenio Tir, CNC (Coedcernyw)

John Southall (Emma Drabble)

Mae'r Gwastadeddau yn unigryw. Ac nid oes unman yn debyg iddo yng ngweddill y wlad, meddai John Southall, Arweinydd Tîm Draenio Tir o Ardaloedd Draenio Mewnol CNC.

Mae John yn blentyn y Gwastadeddau, a dyfodd i fyny yng Nghoedcernyw, ac sydd bellach yn gweithio i atal y tir rhag llithro o dan y môr: “Yr unig reswm nad yw'r lle hwn o dan ddŵr yw oherwydd y gwaith ry’n ni'n ei wneud, gan gynnal y rhwydwaith o ffosydd a rhewynau a sianeli cyffredin.”

Mae tirfeddianwyr yn gyfrifol o dan Ddeddf Draenio Tir 1991 am gynnal a chadw Llanalan, Winter’s Sewers, Earthen Pit, Well Reen, Saltsbarn, Wallsend, Mireland Pil a’r llu o sianeli eraill sy’n croesi’r tir hwn. Gwaith CNC yw helpu i sicrhau bod y dŵr yn llifo'n rhwydd trwy ei 169 o lifddorau.

“Yr hyn sy’n arbennig am ein system ddraenio yw bod y cyfan yn cael ei wneud trwy ddisgyrchiant,” eglura John. “Nid yw’n swydd hawdd. Yn y gaeaf, gallai'r dŵr lifo un ffordd, yn yr haf y ffordd arall. Fe allai llifddor wedi disgyn i mewn, tebyg i Lôn Pentcarn, Dyffryn, achosi i rewyn filltiroedd i ffwrdd yn Llanbedr Gwynllŵg sychu’n gyfan gwbl.”

Mae John yn goruchwylio’r busnes o dorri gwair, y defnydd o fwd, carthu, dad-siltio a ‘keeching’ (torri gwair, dad-siltio a charthu ar unwaith) mewn cylch o saith mlynedd sydd, hyd yma, wedi atal llifogydd y Gwastadeddau. Mae hynny'n golygu cadw'r sianeli yn “berffaith gytbwys”...a chyfarch unrhyw grëyr glas â gwaedd ddynwaredol draddodiadol o Frank! Frank!


 

Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau

Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.

Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.

Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.

Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.