Hela’r Ychen Hirgorn yn Aber-wysg

Ar ddydd Sul 22ain o Awst, aeth criw o wirfoddolwyr mentrus y Lefelau Byw ar daith arbennig ar draws y morfa heli a'r fflatiau llaid yn Aber-wysg i chwilio am dystiolaeth o wartheg cynhanesyddol. Cefnogwyd y grŵp gan y Swyddog Ymgysylltu Cymunedol y Lefelau Byw Gavin Jones ac archeolegwyr o Brifysgol Reading a Phrifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd (Ynysoedd Erch).

Roedd yr amodau ar y morfa heli a'r fflatiau llaid yn heriol ac yn sicr nid yw hwn yn lle i fentro heb rywun i’ch tywys. Roedd y criw yn chwilio am esgyrn ychen hirgorn (aurochs), hynafiaid diflanedig, llawer mwy, y fuwch ddomestig, mewn palaeosianel (hen wely afon neu nant) lle cawsant eu darganfod ar sawl achlysur yn flaenorol.

aurochs footprints.jpg

Gwobrwywyd y cyfranwyr trwy ddarganfod o leiaf 10 asgwrn ychen hirgorn, esgyrn cefn yn bennaf. Maent yn disgwyl mai esgyrn yn dyddio o'r Oes Neolithig neu'r Oes Newydd y Cerrig (4000 - 1700 COG) yw’r rhain; diflannodd yr ychen hirgorn ym Mhrydain yng nghanol yr Oes Efydd (2500 - 800 COG). Cofnodwyd union leoliad pob asgwrn gan System Leoli Fyd-eang gwahaniaethol (DGPS) er mwyn gallu eu cysylltu â darganfyddiadau’r gorffennol a'r dyfodol.

Cyffrous dros ben oedd darganfod 4 olion traed ychen hirgorn mewn dyddodion mawn cynharach a dorrwyd drwodd gan yr hen sianel a oedd yn cynnwys yr esgyrn. Fe wnaethant gastiau alginad deintyddol o ddau o'r olion ac rydym bellach wedi gwneud cast mwy parhaol o blastr Paris o’r olion hyn, a bydd un ohonynt yn cael ei arddangos yng nghanolfan ymwelwyr Gwlyptiroedd Casnewydd. Yn ystod yr ymweliad amlinellwyd hanes darganfyddiadau archeolegol yn Aber-wysg, gan gynnwys darganfyddiad olion traed dynol Mesolithig gan y diweddar Derek Upton, caib wedi ei greu o gorn carw, ac ardaloedd wedi eu gorchuddio ag olion ceirw ac adar.

Cyfrannodd ymweliad y Lefelau Byw at ddarlun datblygol o archeoleg Aber-wysg sydd wedi cynyddu’n raddol ers darganfyddiadau arloesol Derek Upton o ganol yr 1980au. Tra bod y criw yn brysur ar y blaendraeth, cynhaliodd Dr Jennifer Foster arddangosfa dros dro gerllaw ar Lwybr Arfordir Cymru ar y Warchodfa Gwlyptir yn egluro i tua 50 o ymwelwyr y warchodfa beth oedd y criw yn ei wneud, gan arddangos rhai o esgyrn ychen hirgorn o Aber-wysg a chastiau plastr o olion traed dynol ac adar o waith blaenorol yn Allteuryn.

 

Martin Bell a Tom Walker
Prifysgol Reading

Uskmouth bones  (6) WEB.jpg