Adnoddau Dysgu Lefelau Byw
Crëwyd yr adnoddau dysgu unigryw hyn ar gyfer athrawon sydd yn gweithio gyda disgyblion cynradd ac uwchradd.
Mae'r wybodaeth a'r gweithgareddau yn rhoi'r cyd-destun a’r wybodaeth sydd ei angen arnoch i addysgu plant am eu hardal leol, yn yr ystafell ddosbarth ac yn yr awyr agored.
Cliciwch ar y lluniau isod i lawrlwytho fersiynau PDF o’r adnoddau dysgu:
Wedi'i ddiweddaru 2020.
Sut mae’r adnoddau wedi eu cynllunio i mi?
Mae’r adnoddau wedi eu rhannu i chwe rhan yn seiliedig ar gwestiwn a themâu chwilfrydig. Mae tudalen gyntaf pob rhan yn rhoi cipolwg i chi o’r cynnwys.
O fewn pob rhan, ceir adrannau sy’n cwmpasu gwahanol agweddau’r cwestiwn. Fe welwch wybodaeth a chefndir manwl ar gyfer pob cwestiwn gydag awgrymiadau i ddilyn megis gweithgareddau i'w gwneud a llefydd i fynd, gwefan gysylltiedig â llyfrau i'w darllen. Ar ddiwedd pob rhan, ceir lun mawr i chi ei ddadansoddi a'i drafod gyda'ch dosbarth.
Y chwe chwestiwn chwilfrydig yw:
Sut mae tirlun Gwastadeddau Gwent wedi newid dros amser? - Rhan 1
Sut mae dŵr ar Wastadeddau Gwent yn effeithio ar ein bywydau? - Rhan 2
Bywyd Gwyllt ar Wastadeddau Gwent - Sut allwn ni ei fwynhau a'i ddiogelu? - Rhan 3
Beth sy'n gorwedd islaw'r dŵr y tu hwnt i'r morglawdd? - Rhan 4
Sut y defnyddiwyd Gwastadeddau Gwent i gynhyrchu bwyd? - Rhan 5
Sut mae pobl, ddoe a heddiw, wedi symud o gwmpas Gwastadeddau Gwent? - Rhan 6
Mapiau Trysor y Cof
Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof
Adnoddau ychwanegol
Cyfeirir yn benodol at yr hanesion llafar a'r lawrlwythiadau isod yn rhan chwech yr adnodd dysgu ac i chi eu defnyddio ochr yn ochr â gweithgareddau a awgrymir.
Hanesion llafar
Cyflwyniad Powerpoint
(Saesneg yn unig)
Lawrlwythiadau
Cliciwch y dolenni isod i lawrlwytho ffeiliau PDF: