Tîm y Lefelau Byw

IMG_0976.JPG

Alison Orfford

Rheolwr Rhaglen y Lefelau Byw

Mae Alison wedi bod yn rhan o'r rhaglen Lefelau Byw dros y cyfnod datblygu o ddwy flynedd ac yn rhan o'r tîm a ddatblygodd y prosiectau a helpodd i sicrhau'r grant gan CDL ar gyfer y cyfnod gweithredu. Mae ei rôl yn cynnwys goruchwylio'r 24 o brosiectau sy'n rhan o'r Lefelau Byw, cefnogi'r partneriaid i sicrhau canlyniadau llwyddiannus, ac adrodd i Grŵp Llywio a Bwrdd y partneriaid i sicrhau bod y cynllun ar y cyfan yn cyflawni ei amcanion ac yn parhau fel ei gynlluniwyd.

Cysylltwch ag Alison am fwy o wybodaeth ar unrhyw un o’r prosiectau.

 
elinor.jpg

Elinor Meloy

Rheolwr Prosiect Cyrchfan Lefelau Byw

Bydd Elinor yn canolbwyntio ar gyflawni prosiectau sy'n anelu at wella profiad ymwelwyr yng Ngwastadeddau Gwent a diogelu treftadaeth naturiol a diwylliannol tirlun Gwastadeddau Gwent. Mae hi'n gweithio gyda phartneriaid Lefelau Byw ar draws Awdurdodau Lleol o wahanol ardaloedd i gyflawni prosiectau fel y nodir yn y Cynllun Gweithredu Cadwraeth Tirwedd.

Bydd Elinor yn gyfrifol am gomisiynu a rheoli cytundebau allweddol i wireddu gweledigaeth Rheoli Cyrchfan a sicrhau bod cytundebau yn cael eu cyflawni'n effeithiol, ar amser ac o fewn y gyllideb.

Cysylltwch ag Elinor am fwy o wybodaeth am unrhyw un o'r prosiectau.

 
IMG_0972.JPG

Gavin Jones

Swyddog Ymgysylltu Cymunedol y Lefelau Byw

Mae Gavin wedi bod yn gysylltiedig â'r Lefelau Byw ar gyfer y cyfnod datblygu pan oedd yn brysur yn cynnal digwyddiadau ymgynghori lleol a gweithgareddau i ennyn diddordeb. Yn y cyfnod gweithredu, bydd Gavin yn parhau i fod yn Swyddog Ymgysylltu â Chymuned ar gyfer y cynllun a bydd yn canolbwyntio ar gyflwyno ein rhaglen ddigwyddiadau a'n prosiect celf gymunedol, 'Awyr Eang'. Bydd Gavin hefyd yn cefnogi arweinwyr y prosiect i recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr, a bydd yn parhau i fod y prif gyswllt â grwpiau cymunedol ar gyfer y cynllun cyfan.

Cysylltwch â Gavin i gael gwybodaeth am wirfoddoli a digwyddiadau.


 
IMG_0974.JPG

Chris Harris

Swyddog Mynediad a Dehongli Lefelau Byw

Chris oedd recriwt newydd cyntaf y tîm wedi’r cyfnod datblygu gwblhau’n llwyddiannus. Bydd Chris yn canolbwyntio ar gyflwyno cyfres o brosiectau yn ein thema 'Deall a Gwerthfawrogi' sydd wedi'u gynllunio i gyfoethogi profiad yr ymwelydd a chynyddu mynediad a mwynhad o Wastadeddau Gwent.

Cysylltwch â Chris am ragor o wybodaeth am y prosiectau hyn yn ogystal ag ymholiadau ynglŷn â chael mynediad i Wastadeddau Gwent a mannau o ddiddordeb.

 

Kate Rodgers

Uwch Swyddog Treftadaeth Naturiol Lefelau Byw 

Bydd Kate yn canolbwyntio ar gysylltiadau gyda thirfeddiannwr a datblygu perthynas gwaith da i sicrhau bod grantiau'n cael eu derbyn, gweithio gyda chontractwyr a sicrhau bod arferion gwaith diogel ac effeithiol yn cael eu cwblhau ar dir preifat yn ôl yr amserlen, yn unol â'r gyllideb, gyda'r cydsyniadau statudol angenrheidiol yn eu lle ar gyfer unrhyw waith adfer a gosod cynefinoedd sy'n ofynnol. 

Cysylltwch â Kate i gael mwy o wybodaeth am y prosiectau hyn, ac ar gyfer ymholiadau ar waith adfer ar Lefelau Gwent.

 
IMG_0968.JPG

Sian Hawkins

Swyddog Cyllid a Gweinyddu Lefelau Byw

Mae Sian wedi bod gyda'r tîm ers dyddiau cynnar y cyfnod datblygu yn gofalu am gyllid y cynllun. Mae Sian yn gweithio'n agos gyda'r tîm a’r partneriaid i sicrhau ein bod yn rheoli'r cyllidebau yn effeithiol yn ogystal â chyflawni gofynion adroddiadau a chyfrifon ein harianwyr. Mae Sian hefyd yn cefnogi'r tîm a'r partneriaid gyda materion gweinyddol.

Cysylltwch â Sian am ymholiadau cyffredinol am y cynllun.

 
beccy.jpg

Beccy Williams

Cydlynydd Gwirfoddolwyr

Mae Beccy wedi ymuno â'r tîm yn ddiweddar ar gyfer recriwtio a chefnogi gwirfoddolwyr. Dilynwch y ddolen i gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli.

Cysylltwch â Beccy i gael mwy o wybodaeth am gyfleoedd gwirfoddoli gyda'r prosiect.

 

Lewis Stallard

Swyddog Prosiect Cynnal Gwastadeddau Gwent

Mae rôl Lewis yn cynnwys cydlynu ac ymgysylltu â rhanddeiliaid a phartneriaid allweddol i sicrhau arferion rheoli tir cynaliadwy sy'n unigryw i'r Lefelau. Mae hyn yn cynnwys ailsefydlu arferion ffermio cynaliadwy traddodiadol ac archwilio taliadau i dirfeddianwyr i sicrhau’r cyflenwad nwyddau cyhoeddus. Ariennir ei rôl gan Lywodraeth Cymru er bod gorgyffwrdd sylweddol gyda phrosiect Lefelau Byw.

Cysylltwch â Lewis i gael mwy o wybodaeth am y prosiect.

RCDF acknowledgement.jpeg

Mae'r prosiect hwn wedi derbyn cyllid trwy'r cynllun Rheoli Cynaliadwy - Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.