Y Bartneriaeth
Daeth y Bartneriaeth Lefelau Byw at ei gilydd yn 2014 i ddatblygu ac yna chyflwyno gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer Gwastadeddau Gwent. Rydym yn bartneriaeth traws-sefydliadol, yn pontio dros ffiniau gweinyddol, gan gydweithio'n agos â chymunedau a rhanddeiliaid eraill i gynhyrchu cynlluniau sy'n seiliedig ar dystiolaeth ar gyfer rheoli'r dirwedd yma yn gynaliadwy.
Arweinir y bartneriaeth gan RSPB Cymru ac mae'n cynnwys
Yn ogystal â'n partneriaid ffurfiol, mae cymunedau lleol wedi bod yn gweithio gyda ni dros gyfnod datblygu o ddwy flynedd, gan godi materion sy'n bwysig iddyn nhw fel tipio anghyfreithlon a gostyngiadau mewn incymau fferm. Mae deall materion lleol wedi bod yn gymorth i ni ddylunio cynllun a fydd yn gwneud gwir wahaniaeth i bobl leol . Bydd llawer o bartneriaid eraill o'r gymuned gyfagos yn cymryd rhan yn anffurfiol yn ystod cyfnod y cynllun ac rydym yn agored i'r bartneriaeth ffurfiol i dyfu yn ystod y cyfnod yma.
Cefnogir ein partneriaeth gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri sydd wedi rhoi grant hael o £2.5 miliwn tuag at gyflawni ein cynllun gwerth £3.7 miliwn. Rydym yn ddiolchgar i bawb sy’n chwarae’r loteri ac i'r loteri treftadaeth am y gefnogaeth hael i’n galluogi i barhau gyda’r rhaglen wych yma.