Mapio'r Lefelau

Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, i gofnodi ffiniau caeau, ffosydd draenio ac amddiffynfeydd môr.

Cynhyrchwyd dau lyfr o fapiau, un ar gyfer Morfa Gwent ac un ar gyfer Gwastadeddau Gwynllŵg. Cost y gwaith oedd bron i £400, sy'n cyfateb i tua £27,000 yn 2018.

Mae'r mapiau hardd hyn bellach yn cael eu storio yn Archifau Gwent. Wrth gael eu gorchuddio â mapiau OS modern neu luniau o’r awyr, mae'r hen fapiau'n cyfateb bron yn berffaith, sy'n dyst i sgiliau'r syrfewyr gwreiddiol.

Mae mapiau Llys Carthffosydd 1830 ar gyfer Gwastadeddau Gwent yn gasgliad hyfryd a hynod ddiddorol. Daw Mike Rees, un o'n band ymroddedig o hanes RATS (Research and Transcription Service), â stori’r dyn a gomisiynwyd i gynhyrchu'r dogfennau rhyfeddol hyn.

Y dyn y tu ôl i'r mapiau

Ganwyd Thomas Morris tua 1790 yn Newland, Swydd Gaerloyw. Yn ddiweddarach ymgartrefodd yn Stow Hill, Casnewydd, a bu’n gweithio fel peiriannydd sifil, tirfesurydd ac asiant tir. Gwelir un o'i gyfraniadau mawr i hanes Gwastadeddau Gwent mewn cyfres o fapiau a llyfrau o gyfeiriadau a gomisiynwyd gan Lys Carthffosydd, sydd bellach ar-lein: https://livinglevelsgis.org.uk/  

Cafodd y rhain eu creu er mwyn gwybod pwy oedd yn gyfrifol am gynnal a chadw pob rhan o forgloddiau, ffosydd a rhewynau, a hefyd y llifddorau a'r coredau. Mae'r mapiau a'r llyfrau yn darparu manylion pob darn o dir ar Morfa Gwent a Gwastadeddau Gwynllŵg. Mae llyfr cofnodion Llys Carthffosydd (1824-1838), cyfrifiadau, cyfeirlyfrau masnach ac archifau papurau newydd yn helpu i adrodd stori Morris.

Mewn Llys Carthffosydd a gynhaliwyd ar y 3ydd o Ionawr 1828, cyfarwyddwyd Morris (ar y pryd yn ei dridegau hwyr) i barhau yn ei arolwg o'r Gwastadeddau. Cwblhaodd Morfa Gwent yn 1830 a Gwastadedd Gwynllŵg y flwyddyn ganlynol, gan dderbyn cyfanswm o daliadau o £395. Yn dilyn hynny, caniatawyd iddo godi am gopïau o fapiau’r Gwastadeddau ar gyfradd o bedair ceiniog yr erw am bob erw heb fod yn fwy na chant, a thair ceiniog yr erw wedi hynny.

Defnyddiwyd y mapiau nid yn unig gan Lys Carthffosydd a'i syrfewyr, ond hefyd gan Gyngor Bwrdeistref Casnewydd ac mewn cysylltiad â'r rheilffyrdd. Cynhyrchodd Morris hefyd fapiau degwm a dosraniadau (y manylion ysgrifenedig ar gyfer pob darn o dir), gyda 37 o'r rheini ar gyfer Sir Fynwy wedi'u priodoli iddo. Mae'r rhain ar gael ar-lein: https://lleoedd.llyfrgell.cymru/

Ar y 4ydd o Dachwedd 1839, gorymdeithiodd bron i 10,000 o gydymdeimlwyr Siartaidd i lawr Stow Hill heibio i dŷ Morris ac i mewn i Gasnewydd. Y flwyddyn ganlynol, galwyd Thomas Morris fel tyst yn achos eu harweinydd, John Frost. Adroddodd y Gloucestershire Chronicle sut y defnyddiwyd cynllun o fwrdeistref Casnewydd a gynhyrchwyd gan Morris i arddangos llwybrau dynesu’r gwrthdystwyr.

Ar 14eg o Awst 1863, adroddodd Cardiff & Merthyr Guardian am farwolaeth Morris: 'Awst 6, yn ei gartref, Stow-hill, Casnewydd, yn 73 mlwydd oed Thomas Morris, Ysw, CE. Roedd yr ymadawedig yn hen breswylydd uchel ei barch yn y dref honno, ac am nifer o flynyddoedd roedd yn un o'r gorfforaeth, ac yn dal swydd henadur y Fwrdeistref.'

Gallwch ddarganfod mapiau Thomas o’ch cartref eich hun trwy ymweld â www.livinglevelsgis.org.uk

Mike Rees


 

Lefelau Byw SGDd

Map Hanesyddol Lefelau Byw yw'r man lle mae holl hanes, straeon a darganfyddiadau Gwastadeddau Gwent yn dod at ei gilydd mewn un man, yn barod i chi eu harchwilio.

▶ Ewch i livinglevelsgis.org.uk