Lagwnau Allteuryn

Crëwyd Lagwnau Allteuryn yn y 1990au hwyr ac maent yn ffurfio ochr ddwyreiniol Gwarchodfa Natur Genedlaethol Gwlyptiroedd Casnewydd. 

Gorweddai’r safle i’r de o bentref Allteuryn ac mae’n cynnwys tri lagŵn heli bas a elwir yn Monk’s, Prior’s a Bec’s. Mae clytwaith o wahanol gynefinoedd oddi amgylch y lagwnau, megis glaswelltir gwlyb, perthi, prysgwydd, corslwyni, ffosydd a rhewynau llawn dŵr, a fflatiau llaid Aber Afon Hafren. 

Yn y gwanwyn, mae adar yn defnyddio’r lagwnau a’r glaswelltir gwlyb sy’n amgylchynu i nythu a magu rhai ifanc, yn ddiogel tu ôl i ffens drydan 2.2km i arbed ysglyfaethwyr. Mae chwe rhywogaeth o adar y dŵr yn nythu yma, yn cynnwys y cambig, cornchwiglen, cwtiad torchog bach, cwtiad torchog, pioden fôr a’r coesgoch. Dyma’r unig safle yn Ne Cymru lle mae’r cambig yn bridio.

Yn ystod misoedd yr hydref a’r gaeaf, mae’r warchodfa yn hynod bwysig fel llecyn gorffwyso i’r hwyaid a’r adar y dŵr sy’n mudo, tebyg i corhwyaden, chwiwell, gylfinir a’r cornchwiglen. Mae niferoedd enfawr o’r adar hyn yn cyrraedd yma o Sgandinafia a gogledd Ewrop i fwydo ar filiynau o greaduriaid sy’n byw yn y mwd, tywod a’r morfa heli.

Mae’r safle hefyd yn bwysig am ei anifeiliaid di-asgwrn-cefn: dros 400 rhywogaeth wedi eu cofnodi, gan gynnwys rhywogaethau prin yn genedlaethol tebyg i’r chwilen ddŵr arian fawr a’r gardwenynen fain. Hefyd, cadwch lygad am lygod pengrwn y dŵr yn bwydo ac yn nofio yn y ffosydd. 

Parciwch ar Ffordd Allteuryn a dilynwch y llwybr cerdded i mewn i’r warchodfa. Ceir cuddfannau  a phlatfformau gwylio yma yn edrych dros y tri lagŵn. 


Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am Lagwnau Allteuryn a’r hyn sydd wedi ei weld yma’n ddiweddar, ewch i wefan Cyfeillion Lagwnau Allteuryn.


Lagwnau Allteuryn, Ffordd Allteuryn, Casnewydd, Gwent.
OS Grid Ref: ST 367 824

Gwefan

Oriau agor

Ar agor bob amser.

Sut i gyrraedd yno

Ar drafnidiaeth gyhoeddus

Google maps


Ar feic

Google maps


Yn y car

Google maps