Cwestiynau Cyffredin

Isod mae cwestiynau mwyaf cyffredin rydym ni’n eu derbyn am y Lefelau Byw:

Q Rwy'n poeni am effaith datblygiad wedi'i gynllunio ar y Gwastadeddau - a fydd y Lefelau Byw yn gallu helpu?

Mae'r bartneriaeth Lefelau yn gorff cynrychiadol o sefydliadau, unigolion a busnesau Statudol ac Anllywodraethol sydd wedi dod ynghyd i wneud y mwyaf o'r Gwastadeddau o ran ei adfer, ei hyrwyddo a'i ymgysylltu â chymunedau sy'n byw yno.

Mae gan ein rhaglen rôl allweddol wrth annog tirlun a fydd yn gyfoethocach o ran bioamrywiaeth ac yn cefnogi mwy o fywyd gwyllt, gwell deallusrwydd, ei gofnodi, ei reoli, ei gysylltu a'i fwynhau - tirlun a all oroesi newidiadau, sy'n wydn ac yn fyw.

Fodd bynnag, rhaid i'r bartneriaeth Lefelau Byw gynnal safiad diduedd tuag at gynigion datblygu neu unrhyw geisiadau cynllunio sydd o fewn ffiniau’r rhaglen Lefelau Byw. Mae hyn yn cynnwys datblygiadau tai, datblygiadau ynni, a phrosiectau seilwaith mawr.

Er na all y tîm Lefelau Byw gymryd rhan a helpu'n uniongyrchol gydag unrhyw sylwadau ar geisiadau cynllunio, rydym yn annog y rhai sy'n poeni am eu hamgylchedd a'u treftadaeth leol i gymryd rhan yn y broses cynllunio a sicrhau bod eu lleisiau'n cael eu clywed. Mae hyn yn cynnwys cyfeirio sylwadau at Awdurdodau Lleol, sy'n chwarae rhan allweddol mewn penderfyniadau cynllunio, yn ogystal â phartneriaid sy'n ymgynghorai statudol neu fel arall sy'n cymryd rhan yn weithredol.

> Cliciwch yma am ganllawiau ar sut i roi sylwadau ar geisiadau cynllunio ar Wastadeddau Gwent.


Q Rwy'n poeni am dipio anghyfreithlon yn fy ardal leol, beth alla i ei wneud?

Nod y prosiect Troi Llanast yn Llwyni yw lleihau'r tipio anghyfreithlon ar Wastadeddau Gwent a thrawsnewid rhai o'r ardaloedd sy'n cael eu difetha gan dipio anghyfreithlon. Mae'r prosiect yn cymryd dull cydweithredol o fynd i'r afael â'r materion hyn trwy: helpu athrawon i addysgu myfyrwyr, codi ymwybyddiaeth am waredu gwastraff, adeiladu gerddi peillio mewn lleoliadau tipio, ac ymchwilio achosion i ddal, cosbi ac atal troseddwyr.

Gallwch chi helpu trwy sicrhau, os ydych chi'n talu rhywun i gael gwared â gwastraff i chi, ei fod yn cael ei drin yn gyfreithlon. Gallwch wneud hyn trwy wirio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn gludwr gwastraff cofrestredig a gofyn ble maen nhw'n mynd â'ch gwastraff. Os na fyddwch yn gwneud y gwiriadau hyn a bod eich gwastraff yn cael ei dipio'n anghyfreithlon, fe allech chi gael dirwy hefyd.

Sicrhewch fod eich gwastraff cartref yn cael ei waredu'n iawn
Os byddwch chi'n dod o hyd neu weld tipio anghyfreithlon, lle bynnag y bo, rhowch wybod i'ch awdurdod lleol; maen nhw'n gyfrifol am fynd i’r afael ag achosion o dipio anghyfreithlon ar raddfa fach ar dir cyhoeddus gan gynnwys ffyrdd a chilfannau.

Rhowch wybod am dipio anghyfreithlon i'ch awdurdod lleol neu trwy wefan Taclo Tipio Cymru
Mae CNC yn ymchwilio i achosion o dipio anghyfreithlon ar raddfa fawr (yn gyffredinol os yw’r gwastraff yn fwy na llwyth lori/wagen godi yn unig), achosion sy'n ymwneud â gwastraff peryglus, a gangiau sy’n tipio’n anghyfreithlon - a all fod yn beryglus i iechyd pobl a niweidio’r amgylchedd.

I roi gwybod am achosion mawr o dipio anghyfreithlon, ewch i dudalen dudalen Rhoi gwybod am dipio anghyfreithlon CNC.

Am ragor o wybodaeth am y prosiect Troi Llanast yn Llwyni, cysylltwch â info@livinglevels.org.uk.


Q Pam fod Lefelau Byw yn cael gwared â gwrychoedd o Wastadeddau Gwent? A yw hyn yn niweidiol i'r amgylchedd lleol?

Mae tua 1200km o ffosydd caeau sy'n croesi'r Gwastadeddau y dylid eu cynnal gan dirfeddianwyr unigol. Mae'r amrywiaeth o arferion rheoli ac amseriad a lleoliad rheolaeth o fewn y ffosydd wedi arwain at sefydlu amrywiaeth gyfoethog o blanhigion a phoblogaethau cysylltiedig o anifeiliaid di-asgwrn-cefn.

Mi all gwerth cadwraeth y sianeli dŵr hyn gael eu hesgeuluso. Pan nad yw rheolaeth ar lystyfiant y glannau wedi digwydd ers cryn amser, mae'r sianel ddŵr yn tyfu’n wyllt, a chasgliadau o blanhigion yn cael eu colli, a gwelir lleihad yng nghynhwysedd storio dŵr llifogydd y system ddraenio, a all arwain at fwy o lifogydd lleol.

Nod y prosiect yw adfer tua 21km o ffosydd sydd wedi eu hesgeuluso (llai na 2% o'r holl ffosydd) ac ailgyflwyno tocio helyg i gynnal eu hirhoedledd yn y tirlun. Mae helyg wedi eu tocio yn cynnal llawer o rywogaethau ac mae diffyg rheolaeth arnynt yn beryglus ac yn gallu achosi problemau llifogydd wrth lenwi ffosydd. Maent hefyd yn nodwedd tirlun allweddol ar Wastadeddau Gwent felly mae'r gwaith adfer yn unol â chymeriad a hunaniaeth yr ardal.

Pan fyddwn yn nodi ffos bosib sydd angen ei hadfer, rydym yn cynnal arolygon ecolegol sylweddol i wirio am unrhyw rywogaeth a warchodir sy'n helpu i roi gwybod os yw'n addas i'w hadfer. Yn ogystal, mae'r holl waith yn digwydd yn ystod yr hydref a'r gaeaf er mwyn osgoi tarfu ar adar sy'n nythu a bywyd gwyllt arall.

Er ei bod yn ddealladwy y gallai rhai pobl gredu fod y gwaith yn ddinistriol yn y tymor byr, mae'n hynod bwysig cefnogi'r bywyd gwyllt prin a geir ar Wastadeddau Gwent yn y tymor hir. O'r gwaith monitro yn dilyn y gwaith cynefinol, rydym eisoes yn gweld y sianeli dŵr yn cynnal mwy o blanhigion ac anifeiliaid.

Mae'r rheolaeth yma yn gwella gwerth bioamrywiaeth Gwastadeddau Gwent, ac o fudd i'r SoDdGa, a bydd yn adfer cymeriad mosaig traddodiadol y tirlun, yn enwedig trwy ail-agor ardaloedd sydd wedi eu cysgodi ac sy’n sych.

> Cliciwch yma am fwy o wybodaeth am reolaeth ffosydd ar y Gwastadeddau.


Q Rwyf eisiau rhoi gwybod am achos o lygredd ar Wastadeddau Gwent, beth ddylwn i’w wneud?

Adroddir achosion llygredd ac amgylcheddol yma:
Llinell digwyddiadau Cyfoeth Naturiol Cymru - 0300 065 3000


Cwestiwn i’w ofyn?

Cysylltwch â ni ar info@livinglevels.org.uk.