Peterstone Gout

Golygfa o'r awyr o Peterstone Gout (hawlfraint 2020 Google)

Mae gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Ymchwil a Thrawsgrifio (RATS) wedi bod yn gweithio'n ddyfal yn datgelu gwybodaeth archif anhygoel am Wastadeddau Gwent. Dyma’r gwirfoddolwr Cath Davis i ddatgelu popeth am nodwedd bwysig ar Wastadeddau Gwynllŵg.


Hanner milltir i'r dwyrain o hen eglwys Sant Pedr yn Llanbedr Gwynllŵg, mae Peterstone Gout neu ‘Great Gout’ sy’n dirnod pwysig a diddorol ar Wastadedd Gwynllŵg.

Y tu ôl i'r cwrs golff, mae sianel dŵr croyw yn llifo trwy hen wal yr harbwr i mewn i lagŵn cyn draenio i mewn i Aber Afon Hafren trwy fflap llanw.

Lagŵn y tu ôl i Peterstone Gout (Leighton Baker)

Y Rhufeiniaid oedd y cyntaf i sefydlu agorfa yn y man yma rhyw 1,700 o flynyddoedd yn ôl, ac mae'r gowt yn parhau i fod yn brif bwynt draenio Gwastadedd Gwynllŵg. Gan ddefnyddio eu harbenigedd peirianneg, fe wnaeth y Rhufeiniaid adennill y morfa heli llanwol a'i drawsnewid yn borfa ffrwythlon trwy adeiladu morglawdd a draenio'r tir gyda ffosydd a rhewynau.

Peterstone Gout (Leighton Baker)

Mae'r beirianneg anhygoel hon yn golygu bod Gwastadedd Gwynllŵg hyd yn oed heddiw yn cael ei ddraenio gan ddisgyrchiant yn unig. Mae dŵr croyw o'r ucheldiroedd cyfagos a'r tir fferm o'i amgylch yn llifo trwy'r fflap ar lanw isel.

Wrth i'r llanw ddod i mewn, mae ei rym yn gwthio'r fflap ar gau a thrwy hynny yn atal dŵr halen rhag llifo i'r Gwastadeddau. Mae dŵr croyw yn cronni dros dro yn y sianeli dŵr y tu cefn tra bo'r llanw i mewn. Wrth i'r llanw gilio, mae pwysau'r dŵr croyw yn gwthio'r fflap ar agor gan ganiatáu iddo lifo allan i Aber Afon Hafren - proses syml ond effeithiol.


Corsydd Llanbedr Gwynllŵg SoDdGA

Fflatiau llaid llanw, Corsydd Llanbedr Gwynllŵg (Leighton Baker)

Gelwir yr ardal ar ochr y môr o Peterstone Gout yn Gorsydd Llanbedr Gwynllŵg. Mae'r ardal wedi'i gwarchod fel Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGa) ac yn enwog fel man rhagorol ar gyfer gwylio’r adar sy’n cael eu denu i’r corsydd llawn anifeiliaid di-asgwrn-cefn ar y fflatiau llanw.

Chwiliwch am y gylfinir, pibydd y mawn a phiod môr, hwyaid llydanbig a hwyaden yr eithin. Mae'r corsydd hefyd yn denu adar ysglyfaethus, gan gynnwys tylluan glustiog, hebog tramor a’r cudyll bach.

Rheolir yr ardal gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent fel gwarchodfa natur. Dilynwch y ddolen isod i gael mwy o wybodaeth.

Chwiliwch am…


Oeddet ti'n gwybod?

Mae ‘Gout’ yn deillio o’r Hen Saesneg “gota”, a Saesneg Canol ‘gote’ am ddyfrffos, sianel, draen neu nant. Ar y Gwastadeddau, defnyddir ‘gout’ ar gyfer system fflap llanw syml tebyg i'r un a ddefnyddiodd y Rhufeiniaid bron i 2000 o flynyddoedd yn ôl.