Natur a Bywyd Gwyllt
Mae Gwastadeddau Gwent yn gartref i gyfuniad cyfoethog o fywyd gwyllt. Yn benodol oherwydd newidiadau graddol i'r tirlun a chanrifoedd o gynnal a chadw sefydlog o'r sianeli dŵr i ddilyn, mae bellach gan Wastadeddau Gwent un o'r casgliadau gorau o anifeiliaid di-asgwrn-cefn dyfrol yn y wlad.
Gyda phob cae ar draws 5856 hectar o Wastadeddau Gwent wedi eu ffinio gan sianel ddŵr, mae potensial bywyd gwyllt yn rhyfeddol. Mae'r gafaelion (grips), ffosydd, rhewynau a phrif afonydd yn cynnig nifer o gyfleoedd ar gyfer gwahanol rywogaethau, o blanhigion fasgwlaidd blodeuol lleiaf y byd Wolffia arrizha, i'r prif ysglyfaethwyr tebyg i neidr y gwair, y crëyr bach a’r dyfrgi. Mae planhigion megis llyriad y dŵr â'i flodau gwyn cain a’r saethlys yn ffynnu yn y dyfroedd clir. Hefyd mae planhigion tanddwr fel dyfrllys a phlanhigion â dail sy’n arnofio megis brigwlydd a ffugalaw bach, yn gyffredin ar hyd y system ddraenio.
Mae'r casgliad o chwilod dŵr yn unigryw yng Nghymru ac yn gartref i bethau prin, megis y chwilen arian fawr, na welir yn unman arall yng Nghymru ac wedi'i gyfyngu i ychydig o safleoedd eraill yn ne Lloegr.
Mae Gwastadeddau Gwent hefyd yn un o’r ychydig gadarnleoedd sy'n weddill ar gyfer y gardwenynen fain Bombus sylvarum - rhywogaeth sy’n flaenoriaeth yn y DU.
Mae'r gwastadeddau hefyd yn cefnogi llygod dŵr ac amrywiaeth eang o adar, yn enwedig adar y glannau ac adar dŵr. Mae cadarnhad fod nifer o rywogaethau dan warchodaeth Ewropeaidd a rhai’r DU yn bresennol, gan gynnwys pathewod, nadroedd y gwair, rhywfaint o rywogaethau ystlumod, dyfrgwn, madfallod dŵr cribog a llygod pengrwn y dŵr. Roedd y llygod pengrwn y dŵr atyniadol wedi diflannu'n lleol o'r Gwastadeddau ond bellach yn cynyddu diolch i raglen ailgyflwyno a rheoli minc a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.
Mae Gwastadeddau Gwent hefyd yn un o'r blociau mwyaf (10,500ha) o gors arfordirol a gorlifdir pori (cynefin sy’n flaenoriaeth i’r Cynllun Gweithredu Bioamrywiaeth) sydd wedi goroesi yn y DU. Mae'r system ddraenio o ffosydd yn ymestyn i 1,629km. O fewn y bloc hwn, mae wyth SoDdGA gwlyptir sy'n gorchuddio 5,700ha, yn ddynodedig oherwydd yr amrywiaeth o blanhigion ac anifeiliaid di-asgwrn-cefn dyfrol sy'n gysylltiedig â ffosydd y system ddraenio. Mae’r rhain wedi manteisio ar yr amodau amgylcheddol penodol a grëwyd gan y gwahanol lefelau dŵr a threfn rheolaeth llystyfiant y Gwastadeddau hanesyddol. Gyda'i gilydd, maent yn cynrychioli'r cyfansawdd mwyaf o iseldir SoDdGA mewn cors arfordirol a gorlifdir pori yng Nghymru.
I'r de mae Aber Afon Hafren. Wedi ei ddynodi fel Ardal Gwarchodaeth Arbennig (ar gyfer adar prin a bregus); ac Ardal Cadwraeth Arbennig (ar gyfer y cynefinoedd morfa heli dan fygythiad a rhywogaethau eraill megis llysywod pendoll yr afon a’r môr, gwangod, eogiaid a llysywod).
Mae’r Afon Wysg, sy'n rhannu Gwastadeddau Gwynllŵg a Chil-y-coed wrth lifo o Gasnewydd i Aber Afon Hafren, ac Afon Gwy, sy'n treiddio Aber Afon Hafren yng Nghasnewydd, hefyd yn cefnogi cynefinoedd o arwyddocâd rhyngwladol, ac maent yn Ardaloedd Cadwraeth Arbennig. Mae nodweddion arbennig yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau pysgod (llysywod pendoll y môr, gwangod ac eogiaid yr Iwerydd).