Darllen y tirlun

Gall mapiau ddatgelu llawer wrthym am hanes ein tirlun, os ydych chi'n deall sut i'w ‘darllen’.

Gall siâp a maint caeau, ffyrdd sy’n troelli neu adeiladau wedi eu gwasgaru yma ac acw ddatgelu llawer am sut mae'r tirlun wedi esblygu.

Isod fe welir map modern a llun o’r awyr o Allteuryn a Threfonnen. Mae llawer o'r rhewynau a'r ffosydd sy'n draenio'r tir yn troelli ar draws y tirlun, gan greu caeau bach, afreolaidd.

© Hawlfraint Crown. Cedwir pob hawl. Trwydded RSPB 100021787, Rhif Trwydded RSPB: 60271.

Yn dilyn ymadawiad y Rhufeiniaid ar ddechrau'r 5ed ganrif, gwanhawyd y morgloddiau, a throdd y Gwastadeddau yn ôl i wlyptiroedd, gydag ychydig o ffermydd yma ac acw efallai ar dir uwch. Dros gannoedd o flynyddoedd, cafodd y tirlun Rhufeinig ei gladdu gan lanw a llifogydd o dan sawl metr o laid.

Pan gyrhaeddodd y Normaniaid yr 11eg ganrif, fel y Rhufeiniaid o’u blaenau, roeddent yn cydnabod gwerth y Gwastadeddau fel tir pori. Rhoddwyd y tir rhwng Allteuryn a Threfonnen i Briordy Allteuryn gan Arglwydd Caerllion, a dechreuodd y mynachod y dasg enfawr o drin y corsydd gwyllt.

Adeiladwyd y mynachod morgloddiau ar hyd yr arfordir a chychwyn draenio'r tir, gan ddechrau ar y tir uwch ar yr arfordir a gweithio eu ffordd i mewn i'r tir. Roedd yr aneddiadau cynharaf yn y cyfnod yma yn tueddu i fod yn gysylltiedig ag ardaloedd o siâp hirgrwn a oedd wedi'u diogelu gan gloddiau, ac mae'n dal yn bosib olrhain amlinelliad rhai o'r ardaloedd hyn ar fapiau modern, fel yn eglwys Trefonnen, Capel Tump (ger Gwndy) ac yng Ngwastadeddau Llansanffraid Gwynllŵg.

Yn ystod y cyfnod yma, roedd nifer o nentydd, afonydd a chilfachau llanw yn croesi ar draws y Gwastadeddau. Er mwyn arbed amser, llafur a chost, cafodd llawer o'r sianeli dŵr a welir heddiw eu haddasu gan y mynachod, a’u cysylltu â'i gilydd. Gosodwyd ‘gouts ’, neu giatiau llanw, yn y mannau oedd yn wynebu’r môr, a ‘stanks’, neu lifddorau, ar eu hyd. O ganlyniad, fe grëwyd system syml yn defnyddio disgyrchiant a oedd yn caniatáu rheolaeth fanwl ar lefelau'r dŵr, gan leihau llifogydd yn y gaeaf a chadw dŵr yn yr haf, a gynhyrchodd borfa wyrddlas ar gyfer defaid a gwartheg. Mae'r un system, gyda mân welliannau, yn dal i gael ei defnyddio heddiw.

Felly fe ddatblygodd y tir ffermio canoloesol o amgylch Trefonnen ac Allteuryn, mewn ffordd braidd yn afreolaidd, ddi-gynllun, patrwm sy'n dal i fod yn amlwg 900 mlynedd yn ddiweddarach.


Y ffen gefn

Yn gyffredinol ar y Gwastadeddau, mae'r tir ger yr arfordir ychydig yn uwch ac yn sychach na'r tir ymhellach i mewn i'r tir. Yn draddodiadol, y corsydd mewndirol isel hyn, o'r enw’r ffen gefn, oedd y gwlypaf a'r anoddaf i'w draenio. Daeth adennill canoloesol tir y Gwastadeddau i ben ar gyrion y ffeniau cefn a arhosodd yn agored ac yn weddol wyllt am gryn dipyn o amser. Fe'u defnyddiwyd fel man pori yn yr haf ac yn aml cyfeirir atynt fel ‘rhostiroedd’. Weithiau, byddai’r enwau a ddefnyddiwyd ar gyfer y ffen gefn yn adlewyrchu’r sylw gwael a roir i'r tir; enw'r ffen gefn yn Llanwern, sydd bellach yn weithfeydd dur, oedd ‘Tir Drwg’.

Wrth i'r boblogaeth gynyddu, a llafur yn rhwyddach i’w gael, daeth yn bosib draenio'r ffen gefn yn y pen draw. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yr holl rostiroedd agored wedi'u hamgáu a'u draenio fel rhan o bolisi bwriadol. Ar y map, mae'r caeau diweddarach hyn yn ymddangos yn fwy o faint a’u siâp yn fwy rheolaidd, gan ddangos eu bod yn rhan o dirlun wedi ei gynllunio.

Mae mwy o gaeau â siâp rheolaidd yn dangos tirlun ôl-ganoloesol wedi ei gynllunio:

© Hawlfraint Crown. Cedwir pob hawl. Trwydded RSPB 100021787, Rhif Trwydded RSPB: 60271.