Adeiladwyd eglwys fach blwyf y Santes Fair Magdalen yn gynnar yn y 15fed ganrif ar ôl i’r eglwys ym Mhriordy Allteuryn, a oedd hefyd yn gwasanaethu’r plwyf, gael ei dinistrio gan storm yn 1424.
Mae corff yr eglwys a’r gangell yn un, ac mae gan yr eglwys tŵr fel castell gorllewinol a chyntedd deheuol. Mae ffosydd draenio yn amgáu'r fynwent sgwâr ei siâp, ac ar ben twmpath bach mae stwmp, a chredir mai croes ganoloesol ydoedd. Ceir rhodfa o goed leim wedi eu tocio yn arwain at gyntedd y fynedfa.
Er i'r eglwys gael ei hadeiladu ar ddechrau'r 15fed ganrif, mae'n ymddangos bod rhannau o'r adeilad yn llawer hŷn (mae corff yr eglwys wedi'i dyddio i'r 12fed ganrif). Mae hyn, ynghyd â diffyg ffenestri ar y wal ogleddol, yn awgrymu y gallai adeilad, ysgubor o bosibl, fod wedi'i drawsnewid i wasanaethu fel eglwys blwyf.. Mae'n bosibl bod rhai o’r cerrig a ddefnyddiwyd i adeiladu'r eglwys wedi dod o adfeilion y priordy; mae rhai darnau rhyfedd o waith cerrig addurniadol uwchben y ffenestri ar ochr ddeheuol yr adeilad.
Mae'n debygol y cafwyd y pwt o dŵr syml ei olwg ei ychwanegu yn llawer hwyrach i'r adeilad. Efallai iddo gael ei adeiladu yn y 18fed neu'r 19eg ganrif, a gall fod yn gyfoes gyda nenfwd a chornis corff yr eglwys a'r gangell. Mae gan y tŵr un gloch, wedi'i hail-gastio gan Taylors of Loughborough yn 1969.
Mae tu mewn yr eglwys yn syml iawn. Mae yno fedyddfa ganoloesol gyda gorchudd o'r 18fed ganrif. Ar wal ogleddol corff yr eglwys mae plac pres i goffáu Llifogydd Mawr 1606/07.
ON THE XX DAY OF IANVARY EVEN AS IT CAME TO
PAS IT PLEASED GOD THE FLVD DID FLOW TO THE
EDGE OF THIS SAME BRAS • AND IN THIS PARISH
THEARE WAS LOST 5000 AND ODD POWNDS BESIDES
XXII PEOPLE WAS IN THIS PARRISH DROWND
OS cyfeirnod grid: ST 365 831