Pysgota ‘Putcher’

Mae pysgota ‘putcher’ yn ddull traddodiadol o ddal eog a physgod eraill, sy'n dyddio'n ôl i o leiaf y canoloesoedd, ac efallai cyn hynny.

Mae’r dechneg yn defnyddio nifer o fasgedi helyg siâp corn, o’r enw ‘putchers’, wedi’u gosod mewn ffrâm bren o’r enw ‘rank’. Rhes o bolion pren tal yn baralel i’w gilydd oedd y fframiau hyn, gan amlaf yn dderw, llarwydd neu lwyfen, ac wedi'u lleoli ar draws llif llanw'r aber. Gosodwyd y basgedi ar y polion mewn rhesi. Gallai un o’r fframiau hyn ddal cannoedd o fasgedi; roedd y fframiau yn Porton yn dal 600.

Gosodwyd y fframiau er mwyn gallu dal pysgod ar y llanw’n dod i mewn neu’r trai yn mynd allan. Byddai’r eog yn nofio i mewn i’r basgedi, yn methu troi o gwmpas, ac yn cael ei ddal. Wrth i'r llanw ostwng, byddai'r pysgotwyr yn casglu'r pysgod, a fyddai wedyn yn cael eu gosod mewn rhew neu eu mygu yn barod i'w cludo. Byddai tymor pysgota yn rhedeg o 15fed o Ebrill hyd at 15fed o Awst (gostyngwyd yn ddiweddarach i 15fed o Fehefin).

Ar un adeg roedd y fframiau ranks yn olygfa gyffredin ar hyd glannau’r Gwastadeddau, gyda physgodfeydd yn y Redwig, Gwndy a Porton. Roedd y bysgodfa yn Allteuryn yn un o'r rhai mwyaf a’r hynaf, yn gweithredu ar adeg y priordy canoloesol a byddai wedi creu incwm mawr i'r mynachod. Yn dilyn Diddymiad y Mynachlogydd, aeth y bysgodfa i Goleg Eton, a gadwodd perchenogaeth tan yr 20fed ganrif; roedd pysgod o Allteuryn yn cael eu gweini i frecwast i ysgolheigion yn y coleg. Erbyn y 1920au, roedd y tair ffrâm rank yn Allteuryn yn dal tua 2400 o fasgedi.

Dirywiodd pysgota putcher yn ystod rhan olaf yr 20fed ganrif wrth i nifer o eogiaid ostwng a chrëwyd cwotâu llym i reoli’r nifer oedd yn cael eu dal. Y bysgodfa yn Allteuryn oedd yn un o'r olaf i roi'r gorau i weithredu yn 1995.

Trapiau pysgod canoloesol yn y Garreg Ddu (trwy garedigrwydd Pysgotwyr Rhwydi Gafl y Garreg Ddu)

Mae ‘trapio’ pysgod yn un o'r dulliau hynaf o bysgota; mae olion trapiau pysgod hynafol, sy'n dyddio o tua 4000 COG, wedi'u darganfod yn y mwd yn Allteuryn a lleoedd eraill ar hyd arfordir Aber Afon Hafren. Mae llawer o drapiau pysgod canoloesol, sy'n dyddio o'r 12fed i'r 14eg ganrif, wedi cael eu darganfod gan bysgotwyr rhwydi gafl yn y Garreg Ddu; mae'r basgedi wedi ei gwehyddu yn aml yn cael eu cadw mewn cyflwr perffaith yn llaid ffein yr aber.

Er nad yw pysgota putcher i’w weld bellach yn Aber Afon Hafren, gallwch weld olion y fframiau rank mewn sawl lle ar hyd yr arfordir hyd heddiw.

Gweddillion o fframwaith ‘putcher rank’ yn Allteuryn, i'w gweld ar lanw isel.