Ymunodd pedwar gwirfoddolwr y Lefelau Byw â chriw bach o archeolegwyr am bedwar diwrnod o gofnodi ardal newydd o goedwig danddwr a ddaeth i’r golwg ar y blaendraeth yn Allteuryn.
Roedd hyn o ddiddordeb penodol oherwydd bod yr ardal newydd ar lefel uwch na’r coedwigoedd tanddwr a oedd wedi eu hymchwilio yn flaenorol, a chredir ei bod yn Neolithig. Cymerodd yr Athro Nigel Nayling a Dr Rod Bale o Brifysgol Y Drindod Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, a Dr Toby Jones o long Casnewydd, samplau o bedair coeden dderw fawr ar gyfer dyddio cylchoedd coed a byddant hefyd yn dyddio samplau mawn. Cymerodd Dr Scott Timpany o Brifysgol yr Ucheldiroedd a'r Ynysoedd (Ynysoedd Erch) a'i bartner Sarah samplau o fawn ar gyfer dadansoddi paill a hadau i ail-greu hanes llystyfiant. Cymerodd Dr David Smith o Brifysgol Birmingham samplau ar gyfer dadansoddi chwilod.
Cafodd y mawn a ddatgelwyd o'r newydd ei lanhau o fwd a thywod a gwnaed cynllun manwl o'r coed. Bydd Scott a Sarah yn mapio cyfansoddiad y coetir, gan ychwanegu at fap o ardal gyfagos a ddatguddiwyd yn flaenorol, a wnaed yn 2002. Gan ddefnyddio'r technegau amrywiol hyn, mi fydd yn bosib sefydlu union gymeriad y coetir hynafol hwn ac efallai dod o hyd i dystiolaeth o ddylanwad cymunedau Neolithig ar yr amgylchedd. Wrth lanhau ymyl y mawn a chloddio ar raddfa fach, datgelwyd arteffactau cerrig Mesolithig a gladdwyd gan y mawn, gan gynnwys microlith cain (darn bach o fflint) oedd yn debygol o fod yn flaen gwaywffon, a ddarganfuwyd gan Martin Gerrard, un o wirfoddolwyr y Lefelau Byw.
Nid oedd gwaith ar yr ardal Goedwig Danddwr Uchaf a ddaeth i’r golwg yn ddiweddar wedi caniatáu llawer o amser i ymchwilio’r dyddodion a oedd yn isel yn yr amrediad llanw sydd, yn y blynyddoedd diwethaf, wedi bod yn brif ffocws i ni. Fodd bynnag, roedd ymweliad â'r blaendraeth isel yn ystod un llanw isel yn arbennig o gynhyrchiol. Dim ond ardaloedd bach o siltiau laminedig, lle mae olion traed i'w cael yn aml, oedd wedi dod i’r golwg, gyda'r mwyafrif yn cael eu gorchuddio gan dwyni tywod. Er hynny, darganfuwyd set o olion adar oedd wedi'u diogelu’n dda ac mae post arall ar yr olion hyn yn cael ei baratoi gan Jeremy White.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae ardal weithgareddau Mesolithig newydd wedi ei ddarganfod ar y blaendraeth isel ac wedi datgelu esgyrn wedi'u llosgi, pysgod yn bennaf gydag un asgwrn carw, siarcol ac arteffactau fflint. Roedd Adam Turner, myfyriwr PhD ym Mhrifysgol Reading, yn chwilio’r gwaddod wedi erydu wrth ochr y safle hwn pan ddaeth o hyd i fwyell Fesolithig wedi torri o dwff folcanig ac enghraifft arbennig o sgrafell garreg, yn debygol wedi ei ddefnyddio i lanhau cuddfannau. Yn anffodus, roedd y strwythur pren Mesolithig, a ddehonglwyd fel trap pysgod sydd hyd yn oed yn is yn yr amrediad llanw, ac yr ydym wedi bod yn ei gofnodi a'i gloddio ers 2017, wedi'i orchuddio'n llwyr gan gerrig mân symudol felly nid oedd yn bosibl gwneud gwaith pellach ar y safle hwnnw.
Tra bod y criw yn gweithio ar y blaendraeth, roedd Dr Jennifer Foster yn gweithio ar dir sych, yn cofnodi’r darganfyddiadau, ac yn egluro i nifer o ymwelwyr a oedd yn cerdded y morglawdd beth oedd y criw prysur yn ei wneud yn y mwd islaw.
Cydnabyddiaethau
Rydym yn ddiolchgar i'r Lefelau Byw, Alison Boyes a gwirfoddolwyr y prosiect am gefnogi ein gwaith. Hefyd i'r ymchwilwyr arbenigol oedd yn gysylltiedig, pob un ohonynt wedi cyfrannu'n allweddol at ymchwil gynharach yn Allteuryn.
Diolch yn arbennig i deulu Williams ym Mhysgodfa Allteuryn a ganiataodd inni godi pabell ar eu lawnt fel ein man sefydlog i'r lan. Gwnaeth hyn y dasg gyfan yn haws ac yn fwy pleserus, wrth ddarparu lle i weithio ar y darganfyddiadau a'r samplau a'r cyfle i gael saib a chwpanaid o de ac esbonio'r gwaith i gerddedwyr y morglawdd gerllaw.
Martin Bell a Tom Walker,
Prifysgol Reading
Taith gerdded gyhoeddus 21 Medi 2021
Os hoffech chi brofi'r archeoleg yn uniongyrchol yn Allteuryn, mae taith gerdded gyhoeddus yn cael ei threfnu gan y prosiect Lefelau Byw ar ddydd Mawrth Medi 21ain, a bydd manylion i’w gweld ar wefan Lefelau Byw. Rhaid eich rhybuddio, fodd bynnag, bod amodau rhynglanwol yn fwdlyd ac yn llithrig a bod y teithiau cerdded hyn ond yn addas ar gyfer y rhai sydd â symudedd da a heb gyflyrau iechyd isorweddol difrifol. Nid yw'r ardal rynglanwol yn addas ar gyfer ymweliadau heb eu tywys oherwydd yr amodau anodd dros ben ar y blaendraeth ac am resymau cadwraeth natur.