#WythnosGwirfoddoli2020: ABG a CAI - yn cyflwyno ein Harwyr Treftadaeth!

Un o elfennau allweddol tirlun Gwastadeddau Gwent yw’r cysylltiad hanfodol rhwng ei hanes, archeoleg a’r bywyd gwyllt - dyna beth sy’n ei wneud mor unigryw.

Gyda hyn mewn golwg, mae Lefelau Byw wedi dod a dau grŵp ieuenctid ynghyd o bob rhan o'r Gwastadeddau sydd â diddordebau gwahanol iawn, ar dirlun sy'n cyfuno'r ddau’n berffaith. Mae'r Archwilwyr Bywyd Gwyllt (ABG) sydd wedi'u lleoli yng Ngwlyptiroedd Casnewydd a changen De Ddwyrain Cymru o Glwb Archeolegwyr Ifanc (CAI) yn cwrdd ar yr un diwrnod o'r mis ac yn awyddus I groesawu aelodau newydd.

Dyma Kevin Hewitt o’r grŵp ABG gyda’r hanes. “Yr ysbrydoliaeth i mi oedd mynychu digwyddiad Ysgol Undydd y Lefelau Byw yr haf diwethaf yn y Redwig. Mi gefais dipyn o foment ‘Eureka!’ gan fod ABG yn mynd trwy amser anodd ac angen ffocws newydd, felly pam ddim canolbwyntio’n lleol a chysylltu â hanes y gwastadeddau?”

Ar yr un pryd, roedd Lefelau Byw wedi bod yn trafod gweithgareddau archeolegol posibl gyda Rebecca Eversley-Dawes o CAI. Felly, roedd yr ateb yn syml; beth am drefnu gweithgareddau ar y cyd ar y Gwastadeddau sy'n edrych ar fywyd gwyllt ac archeoleg? – ta beth, mae'r ddau grŵp yn rhannu elfennau o ddiddordebau allweddol, fel bod yn yr awyr agored, gafael mewn pethau a mynd yn fwdlyd. Felly dyna wnaethon ni, cyn i ni i gyd gael ein gofyn i aros y tu fewn!

Daeth 20 o blant ac oedolion o ardaloedd Cas-gwent, Casnewydd a Chaerdydd ynghyd ar gyfer y gweithgaredd ‘Arwyr Treftadaeth’ Lefelau Byw cyntaf ar Wastadeddau Gwent. I ddechrau fe wnaethon ni gerdded am filltir ar draws caeau mwdlyd o Ganolfan Gwlyptiroedd Casnewydd i Eglwys y Santes Fair yn Nhrefonnen, gan gyflwyno pawb i'r rhwydwaith ffosydd canoloesol a'r bywyd gwyllt a geir o amgylch y rhewynau. Cafodd y grŵp eu cyfarch gan Sue Waters o Grŵp Treftadaeth y 3 Plwyf, ac adroddodd hanes rhyfeddol am yr eglwys, cyn i bawb wisgo fflachlampau pen ac wynebu’r twr canoloesol, lle mae'r rhwydwaith ffosydd, Aber a Phont Hafren, Gwlyptiroedd, bryniau i'r gogledd a hen safle Priordy Allteuryn i'w gweld yn eu holl ogoniant! Roedd amser hefyd ar gyfer arolygon adeiladau a bywyd gwyllt o amgylch yr eglwys cyn troi am yn ôl.

Dyma Rebecca Eversley-Dawes o Glwb Archeolegwyr Ifanc i grynhoi’r bartneriaeth: “Mae CAI yn 25 mlwydd oed eleni ac yn ystod ein blynyddoedd lawer yng Nghasnewydd rydym wedi dod i ddibynnu ar yr Archeoleg sy'n ein hamgylchynu I ddysgu mwy i ni am ein cyndeidiau. Croesewir pob cyfle i ddysgu rhywbeth newydd ac edrychwn ymlaen at weithio mewn partneriaeth â'r prosiect Lefelau Byw ac ABG i gyfuno diddordebau yn y tirlun archeolegol yma. Mae ein tîm yn edrych ymlaen at gyflwyno gweithgareddau poblogaidd gydag eraill a mwynhau cyfnewid gwybodaeth am yr ardal yma.

Gavin Jones

20200314_123513 crop 2.jpg