Yn 1531, pasiodd y brenin Harri VIII y Ddeddf Carthffosydd, gan greu Comisiynwyr a Llysoedd Carthffosydd i oruchwylio'r gwaith o reoli corstiroedd arfordirol, tir amaethyddol cynhyrchiol ond yn dueddol o gael llifogydd.
Gwnaed tirfeddianwyr unigol yn gyfrifol am gynnal amddiffynfeydd môr a ffosydd draenio, a’u gorfodi gan y Llysoedd i wneud y gwaith.
Sefydlwyd Llys Carthffosydd Sir Fynwy, sy'n goruchwylio Gwastadeddau Gwent, tua 1640. Roedd y Llys ar waith am y 300 mlynedd nesaf nes diddymwyd Deddf Carthffosydd yn 1930 gan y Senedd a'i ddisodli gan Ddeddf Draenio Tir. Cafodd y Llys ei ddisodli yn 1942 gan Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-Coed a Gwastadeddau Gwynllŵg.
Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, gan gofnodi ffiniau caeau, draenio ac amddiffynfeydd môr. Cynhyrchwyd dau lyfr o fapiau, un ar gyfer Morfa Gwent ac un ar gyfer Gwastadeddau Gwynllŵg. Mae'r gwaith yn costio tua £440 (£27,000 yn 2018). Mae'r mapiau hardd yma bellach wedi'u cadw yn Archifau Gwent. Wrth eu gosod ar ben mapiau AO modern neu luniau o'r awyr, mae yna gryn dipyn o gydymffurfiaeth.
Yn 2015, aeth y cyfrifoldeb i reoli'r Lefelau i Gyfoeth Naturiol Cymru, gan ddod i ben â 400 mlynedd o reolaeth leol ar y Gwastadeddau.
Mae'r flwyddyn 2021 yn nodi can mlynedd ar hugain ers marwolaeth drasig Louisa Maud Evans.
Mae pobl wedi bod yn croesi Aber Hafren ers miloedd o flynyddoedd. Hyd nes datblygu ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi o safon, yn aml dyma'r ffordd gyflymaf o gludo pobl, anifeiliaid a nwyddau dros gryn bellter.
Yn 2019, ar ôl absenoldeb o dros 200 mlynedd, gwelwyd adar y bwn yn bridio ar Wastadeddau Gwent unwaith eto.
Mae rheolaeth dŵr ar y Gwastadeddau yn dibynnu ar system ddraenio gymhleth sy'n ymestyn am dros 1500km, gyda rhai rhannau tua 2000 o flynyddoedd oed.
Mae gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Ymchwil a Thrawsgrifio (RATS) wedi bod yn gweithio'n ddyfal yn datgelu gwybodaeth archif anhygoel am Wastadeddau Gwent. Dyma’r gwirfoddolwr Cath Davis i ddatgelu popeth am nodwedd bwysig ar Wastadeddau Gwynllŵg.
Y tu hwnt i'r morglawdd mae anialwch gwlyb o forfeydd heli, fflatiau llaid a llethrau tywod, a dyfroedd anferth yr Aber Afon Hafren, sy’n llwythog o silt.
Adeiladwyd eglwys fach blwyf y Santes Fair Magdalen yn gynnar yn y 15fed ganrif ar ôl i’r eglwys ym Mhriordy Allteuryn, a oedd hefyd yn gwasanaethu’r plwyf, gael ei dinistrio gan storm yn 1424.
Mae cysylltiad agos rhwng hanes eglwys y Santes Fair, Trefonnen, a adnabyddir yn lleol fel “Eglwys Gadeiriol y Rhostiroedd”, â'r Priordy Benedictaidd canoloesol cyfagos yn Allteuryn.
Yn ystod ei hanes maith, cysegrwyd eglwys blwyf y Redwig i sawl sant gwahanol; Santes y Forwyn Fair cyn 1875 a chyn hynny Sant Mihangel yr Archangel.
Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, i gofnodi ffiniau caeau, ffosydd draenio ac amddiffynfeydd môr.