Ar 30 Ionawr 1607, cafodd morgloddiau y naill ochr i Aber Afon Hafren eu boddi gan ddŵr llifogydd.
Roedd cryn dipyn o Wastadeddau Gwent a Gwlad yr Haf dan ddŵr, gan ladd tua 2,000 o bobl a llawer o anifeiliaid. Cyrhaeddodd y llifddwr ddyfnder o 10 troedfedd mewn rhai ardaloedd, a lledaenu hyd at 14 milltir i ganol y tir. Cafodd nifer o ddinasoedd eu heffeithio, gan gynnwys Caerdydd, Bryste a Chaerloyw.
Mae'n debygol y cafodd y llifogydd ei achosi gan gyfuniad o benllanw mawr anarferol o uchel, storm dreisgar a phwysedd isel i'r atmosffer, a achosodd i lefelau môr godi ymhellach.
Cofnodir manylion y digwyddiad mewn pamffledi newyddion cyfoes, 'chapbooks' yn Saesneg. Yn aml, byddai’r pamffledi yn darlunio lluniau dramatig o'r difrod.
Mae'r digwyddiad hwn yn cael ei goffáu gyda phlaciau mewn sawl eglwys ar y Gwastadeddau sy'n dangos uchder y llifddyfroedd. Mae'r plac yn Allteuryn yn cofnodi, “...heare was lost 5000 and od pownds besides 22 people was in this parrish drownd...”. Mae £5000 yn cyfateb i tua £650,000 heddiw. Oherwydd y newid o galendr Iŵl i galendr Gregori yn 1752, mae'r coflechau yn cofnodi'r dyddiad fel 20fed o Ionawr 1606.
Mae'r flwyddyn 2021 yn nodi can mlynedd ar hugain ers marwolaeth drasig Louisa Maud Evans.
Mae pobl wedi bod yn croesi Aber Hafren ers miloedd o flynyddoedd. Hyd nes datblygu ffyrdd, rheilffyrdd a chamlesi o safon, yn aml dyma'r ffordd gyflymaf o gludo pobl, anifeiliaid a nwyddau dros gryn bellter.
Yn 2019, ar ôl absenoldeb o dros 200 mlynedd, gwelwyd adar y bwn yn bridio ar Wastadeddau Gwent unwaith eto.
Mae rheolaeth dŵr ar y Gwastadeddau yn dibynnu ar system ddraenio gymhleth sy'n ymestyn am dros 1500km, gyda rhai rhannau tua 2000 o flynyddoedd oed.
Mae gwirfoddolwyr y Gwasanaeth Ymchwil a Thrawsgrifio (RATS) wedi bod yn gweithio'n ddyfal yn datgelu gwybodaeth archif anhygoel am Wastadeddau Gwent. Dyma’r gwirfoddolwr Cath Davis i ddatgelu popeth am nodwedd bwysig ar Wastadeddau Gwynllŵg.
Y tu hwnt i'r morglawdd mae anialwch gwlyb o forfeydd heli, fflatiau llaid a llethrau tywod, a dyfroedd anferth yr Aber Afon Hafren, sy’n llwythog o silt.
Adeiladwyd eglwys fach blwyf y Santes Fair Magdalen yn gynnar yn y 15fed ganrif ar ôl i’r eglwys ym Mhriordy Allteuryn, a oedd hefyd yn gwasanaethu’r plwyf, gael ei dinistrio gan storm yn 1424.
Mae cysylltiad agos rhwng hanes eglwys y Santes Fair, Trefonnen, a adnabyddir yn lleol fel “Eglwys Gadeiriol y Rhostiroedd”, â'r Priordy Benedictaidd canoloesol cyfagos yn Allteuryn.
Yn ystod ei hanes maith, cysegrwyd eglwys blwyf y Redwig i sawl sant gwahanol; Santes y Forwyn Fair cyn 1875 a chyn hynny Sant Mihangel yr Archangel.
Yn 1830, gorchmynnodd Comisiynwyr Carthffosydd arolwg o Wastadeddau Gwent, i gofnodi ffiniau caeau, ffosydd draenio ac amddiffynfeydd môr.