Y tu hwnt i'r morglawdd mae anialwch gwlyb o forfeydd heli, fflatiau llaid a llethrau tywod, a dyfroedd anferth yr Aber Afon Hafren, sy’n llwythog o silt.
Mae gan yr Aber un o'r amrediad llanw uchaf yn y byd, tua 14m, a dwywaith y dydd mae tua 8 biliwn metr ciwbig o ddŵr yn llifo i mewn ac allan o'r ddyfrffordd ar bob llanw. Wrth i'r dŵr ddraenio ymaith yn ystod y llanw trai, fe ddatgelir darn enfawr o dir.
Ychydig y tu hwnt i'r morglawdd mae ardaloedd o forfeydd heli, gwlyptiroedd arfordirol sy'n cael eu gorlifo a'u draenio gan ddŵr hallt a ddaw i mewn gan y llanw. Maent yn ffurfio ar hyd arfordiroedd cysgodol, tebyg i aberoedd, pan fydd fflatiau llaid yn cyrraedd lefel cyfartaledd y llanw uchel a phlanhigion sy'n medru goddef halen, fel y llwylys Seisnig, cordwellt a lafant-y-môr yn ymsefydlu.
Mae morfeydd heli yn ffurfio byffer rhwng y môr a thir sych, gan leihau symudiad y tonnau ac yn amddiffyn yr arfordir rhag erydiad. Maent hefyd yn darparu rhai o'r cynefinoedd mwyaf cyfoethog ar gyfer organebau morol, ac o ganlyniad yn denu nifer fawr o rydwyr, fel y Gylfinir a’r Cambig.
Ymhellach allan, tu draw i’r morfa heli mae fflatiau llaid a llethrau tywod. Mae Afon Hafren, ynghyd ag afonydd Gwy, y Wysg ac Avon, yn cario llwyth enfawr o silt, tywod a chlai. Dros amser, mae hyn yn setlo ar wely’r môr gan ffurfio haen ddofn o fwd. Ers ffurfio'r aber wedi’r cyfnod rhewlifol diwethaf, mae'r afonydd wedi dyddodi tua 20m o ddeunydd ar draws yr ardal gyfan
Efallai bod fflatiau llaid yn ymddangos yn ddiffrwyth, ond maent yn gyfoethog o ddeunydd organig, gan eu gwneud yn gynefin delfrydol ar gyfer llu o anifeiliaid di-asgwrn-cefn sy’n chwilota am fwyd ac yn bwydo trwy hidlo. Wrth i'r llanw fynd allan a datgelu'r fflatiau llaid, daw miloedd o adar i fwydo, tebyg i biod môr a gylfinirod.
Mae Aber Afon Hafren yn un o'r gwlyptiroedd gorau yn y DU. Mae'n bwysig yn rhyngwladol ar gyfer amrywiaeth eang o adar y gwlyptir a defnyddir ei gorsydd a'i fflatiau llaid gan 80,000 o adar gaeafu bob blwyddyn ar gyfartaledd.
Anogir ymwelwyr i beidio â mentro heibio'r morglawdd. Mae'r ardal rhynglanwol yn le peryglus gyda thraeth byw, mwd dwfn a chreigiau llithrig lle daw'r llanw i mewn yn gyflym drostynt. Mae safleoedd archeolegol yn fregus ac yn hawdd eu niweidio, ac mae'r ardal yn gynefin sensitif i adar.