Lefelau Byw: Gwylio’r Gwyllt

Nod ein prosiect Gwylio’r Gwyllt yw ennyn diddordeb pobl leol i gofnodi bywyd gwyllt ar Wastadeddau Gwent.

Trwy gynllun o ddiwrnodau hyfforddi ac adnoddau ar-lein, ein nod yw rhoi hyder, sgiliau a gwybodaeth i bobl leol i helpu i arolygu a chofnodi bywyd gwyllt.

Mae arolygu bywyd gwyllt yn hanfodol er mwyn gwella ein dealltwriaeth o gyflwr natur. Mae’r wybodaeth sy’n cael ei gasglu mewn arolygon yn datgelu sut mae niferoedd a dosbarthiad bywyd gwyllt yn newid mewn ymateb i newid yn yr hinsawdd a cholli cynefin. Yn debyg i sawl rhan o'r Deyrnas Unedig, nid oes digon o gofnodion am y bywyd gwyllt ar Wastadeddau Gwent, yn bennaf oherwydd diffyg adnoddau. Bydd ein prosiect Gwylio’r Gwyllt yn helpu i gynyddu nifer y "llygaid ar y ddaear" a rhoi darlun mwy eglur o sefyllfa sy'n newid yn gyflym.

Rydym wedi dewis 12 rhywogaeth darged i ganolbwyntio arnynt, un ar gyfer pob mis o'r flwyddyn. Dros y flwyddyn, gofynnir i arolygwyr gwirfoddol gadw llygad a chofnodi amrywiaeth o fywyd gwyllt, megis y dylluan wen, llygoden bengron y dŵr, uchelwydd a chardwenyn main. Gall gwirfoddolwyr gofnodi un, ambell un, neu bob un o’r rhywogaethau targed; a gallant gofnodi'r rhywogaeth sawl gwaith a thrwy gydol y flwyddyn.

Tua diwedd yr haf, byddwn yn trefnu diwrnod cofnodi maes arbennig i wirfoddolwyr.

Mae hwn yn gyfle cyffrous i wirfoddolwyr sydd naill ai’n brofiadol neu’n ddibrofiad mewn cofnodi bywyd gwyllt. Peidiwch ofni - cewch hyfforddiant a chymorth i adnabod rhywogaethau a sut i gofnodi a chyflwyno cofnodion cywir.

 

Hyfforddiant a chymorth

I'ch rhoi ar ben y ffordd, rydym wedi trefnu cyfres o ddiwrnodau hyfforddi lle cyflwynir cyflwyniad i bob rhywogaeth a rhai sgiliau sylfaenol ar gyfer yr arolwg.

Cynhelir sesiynau hyfforddi mewn amrywiaeth o leoliadau ar draws y Gwastadeddau ac fe'u cyflwynir gan SEWBReC (Canolfan Cofnodion Bioamrywiaeth De Ddwyrain Cymru) ac arbenigwyr lleol. Bydd y sesiynau'n canolbwyntio ar sut i adnabod y 12 rhywogaeth darged sydd wedi'u cynnwys yn y calendr, trwy sgyrsiau, teithiau cerdded a sesiynau ymarferol (e.e. dadansoddi peledi tylluanod). Bydd cyfarwyddyd hefyd ar sut i gyflwyno cofnodion gan ddefnyddio cardiau cofnodi, ar-lein a thrwy ap cofnodi SEWBReC. Mae’r nifer o leoedd yn gyfyngedig, felly archebwch yn gynnar.

Rydym hefyd wedi cynhyrchu cyfres o ganllawiau ar-lein gydag adnoddau i'w lawrlwytho ar gyfer pob rhywogaeth.

Sut i archebu

Mae manylion cyrsiau hyfforddi ar ein tudalennau Digwyddiadau.

Nodwch NAD yw'n hanfodol i fynychu'r diwrnodau hyfforddi, a gallwch gymryd rhan trwy lawrlwytho'r adnoddau ar-lein. 

Cyflwynir y prosiect hwn mewn partneriaeth â: