Rhostiroedd Pengam: O'r Tir i’r Awyr

Hofrennydd ‘British European Airways Sikorsky S-51’ a ddefnyddiwyd ar daith awyr 1950 o Rostiroedd Pengam i Faes Awyr Speke Lerpwl.(Gan RuthAS - Own work, CC BY 3.0, LINK)

Hofrennydd ‘British European Airways Sikorsky S-51’ a ddefnyddiwyd ar daith awyr 1950 o Rostiroedd Pengam i Faes Awyr Speke Lerpwl.

(Gan RuthAS - Own work, CC BY 3.0, LINK)

Ar ddiwedd y 1920au roedd posibiliadau hedfan yn dechrau datblygu, ac roedd Caerdydd yn benderfynol o fod yn rhan o’r ras.

Roedd angen safle gwastad yn agos at y ddinas ar gyfer maes awyr, ac roedd y rhostir gwyllt rhwng ffin ddwyreiniol y ddinas ac afon Rhymni yn ymddangos yn lleoliad delfrydol. Tir pori oedd hwn yn bennaf yn perthyn i ffermydd y Sblot a Pengam ac, fel gŵyr y ffermwyr lleol mae’n siŵr, yn dueddol o orlifo mewn mannau.

Agorodd y maes awyr yn swyddogol yn 1931 gyda sbloet o sioe awyr yn cynnwys ras awyr o Lundain i Gaerdydd, ‘hedfan gwallgo’’ a theithiau hwyl ymhlith atyniadau eraill. Yn anffodus, datganwyd bod y safle yn anniogel gan y Weinyddiaeth Awyr oherwydd draenio gwael, ac nid oedd posib rhoi trwydded fasnachol. Gohiriwyd teithiau masnachol oherwydd y gwaith adfer costus, pan yn 1932  cychwynnodd gwasanaeth Western Airways i Weston-Super-Mare. Roedd hwn yn daith boblogaidd i bobl busnes a phobl ar eu gwyliau, yn enwedig glowyr o Gymru ar eu gwyliau blynyddol. Cyn bo hir roedd cyrchfannau eraill ar gael, gan gynnwys Birmingham, Bryste, Teignmouth a Plymouth. Erbyn 1937, roedd posib teithio i Le Touquet a Paris, ac roedd nifer y teithwyr wedi cynyddu i tua 20,000 y flwyddyn.

Yn 1936, hawliwyd y safle gan y Weinyddiaeth Awyr ar gyfer Sgwadron Ategol y Llu Awyr 614 (Morgannwg). Fe achosodd hyn bwysau aruthrol ar y safle am le, oherwydd nid yn unig yr oedd teithiau masnachol yn gweithredu o'r maes awyr, ond roedd gan Glwb Awyrennau Caerdydd yno hefyd, yn darparu cyfleusterau ar gyfer peilotiaid preifat a hyfforddi peilotiaid. Roedd yr ehangu angenrheidiol yn dechrau tarfu ar y rhandiroedd cyfagos. Roedd awyrennau milwrol bellach yn esgyn ac yn glanio yn agos iawn at fannau preswyl, a derbyniwyd llawer o gwynion am sŵn. Problem arall oedd plant yn tresmasu ar y safle, yn enwedig yn ystod gwyliau'r ysgol. Roedd un bachgen yn lwcus dros ben pan drodd peilot ei awyren yn sydyn wrth iddo lanio i osgoi’r crwt! 

Cafodd teithiau masnachol eu hatal yn 1940, hyd at ddiwedd y rhyfel. Roedd diffygion y safle yn rhy amlwg o lawer. Ymhlith yr anawsterau oedd prinder lle ar gyfer ehangu, problemau draenio parhaol a’r tai cyfagos. Ystyriwyd y byddai angen gwelliannau gwerth miliwn o bunnoedd, ond oherwydd caledi’r blynyddoedd ar ôl y rhyfel roedd arian yn brin. Yn lle hynny, cynigiwyd adleoli'r maes awyr i safle newydd, gyda Llandŵ a’r Rhws yn cael eu hystyried.

Yn 1954 daeth yr holl deithiau masnachol o Pengam i ben, ac yn 1957, arwerthwyd y siediau awyrennau a'r adeiladau allanol gan Hern & Crabtree. Defnyddiwyd rhai o'r adeiladau allanol yn ddiweddarach at ddefnydd diwydiannol. Er i hofrenyddion barhau i ddefnyddio rhan o'r safle am gyfnod (pryd hynny adroddwyd bod 500 o ferched a phlant wedi heidio o amgylch Dug Caeredin wedi iddyn nhw redeg heibio’r heddlu), roedd dyddiau da Maes Awyr Rhostiroedd Pengam Caerdydd ar ben.

Gwyliwch ffilm newyddion Pathé o 1950 sy’n cynnwys Maes Awyr Rhostiroedd Pengam:


Erthygl a ffotograffau a ddarparwyd yn garedig gan Marion Sweeney.