Pysgota Rhwydi Gafl: Pysgodfa Eog yr 21ain Ganrif

Cafodd y dull traddodiadol yma o bysgota eogiaid trwy ddefnyddio rhwydi gafl ei gofnodi am y tro cyntaf ar Aber Hafren yn y 1700au, ond bron yn sicr yn bodoli cyn hyn.

Siâp ‘Y’ yw’r rhwyd a ddelir â llaw, ac mae’r ffrâm yn plygu er mwyn ei gludo’n rhwydd. Defnyddir tri math o bren i’w adeiladu; pinwydd ar gyfer yr astell (yoke), helyg ar gyfer y breichiau (rimes) ac onnen ar gyfer y goes (rock staff). Mae'r rhwyd ​​o fewn y ffrâm wedi'i gwau â llaw.

Mae'r dull yma o bysgota yn golygu cerdded allan trwy dŵr yr aber ar lanw isel i fannau pysgota traddodiadol a “chwrcwd” (sefyll yn dawel), ac aros i bysgodyn daro'r rhwyd neu ddod i’r golwg, yna ceisio ei ddal cyn iddo gyrraedd dŵr dwfn.


Dim ond un dull traddodiadol o bysgota eogiaid ar yr aber oedd pysgota â rhwydi gafl. Roedd eraill yn cynnwys basgedi siâp corn (putchers), cychod ‘stopnet’, rhwydi sân, rhwydi bach a rhwydi drysu. Mae'r dulliau hyn wedi'u dirwyn i ben ar hyn o bryd, ac eithrio'r bysgodfa rhwydi gafl yn y Garreg Ddu, ger Porthsgiwed, Sir Fynwy.

Mae'r bysgodfa benodol hon wedi goroesi trwy groesawu newid. Bellach mae llawer yn credu ei fod yn "fodel o bysgodfa dreftadaeth", wrth gytuno ar gyfyngiad llym ar niferoedd o eogiaid a gydag eraill yn hyrwyddo'r bysgodfa hynafol hon fel safle twristiaeth a threftadaeth, wedi adeiladu tŷ rhwyd yn y ganolfan (sy'n edrych draw dros y tir pysgota) a gwahodd y cyhoedd i wylio yn ystod y tymor pysgota o'r safle picnic yn y Garreg Ddu, sy'n rhoi golygfeydd panoramig o'r aber.

Mae'r bysgodfa wedi ffynnu o dan warchodaeth y cytundeb hwn ac wedi denu pobl ifanc, gan roi bywyd newydd iddo.

Mae'r bysgodfa dros y blynyddoedd diwethaf wedi cyflawni llawer o bethau na fyddai wedi bod sôn amdanynt yn y gorffennol; ymddangos ar y teledu a'r radio, arddangos yn yr amgueddfa genedlaethol a'r Eisteddfod, a’i gynnwys mewn llawer o lyfrau a chylchgronau twristiaeth.

Ond efallai mai cyflawniad mwyaf y pysgotwyr a'r bysgodfa yw eu bod wedi profi y gall pysgodfa eog draddodiadol fodoli mewn ffordd gynaliadwy yn yr 21ain ganrif.

Cymdeithas Pysgotwyr Rhwydi Gafl y Garreg Ddu


I gael mwy o wybodaeth am Bysgodfa Treftadaeth Rhwydi Gafl y Garreg Ddu ewch i www.blackrocklavenets.co.uk


Martin Morgan, Pysgotwyr Rhwydi Gafl y Garreg Ddu (Nanette Hepburn)