Trasiedi Balŵn yn Arddangosfa Caerdydd

Mae'r flwyddyn 2021 yn nodi can mlynedd ar hugain ers marwolaeth drasig Louisa Maud Evans, merch pedair ar ddeg oed a fu farw o ganlyniad i stỳnt syrcas a aeth o'i le yn drychinebus. Marion Sweeney (RATS) sy’n adrodd y stori.

Dechreuodd y stori yn Arddangosfa Ddiwydiannol a Morwrol Caerdydd yn 1896. Cynhaliwyd y digwyddiad enfawr hwn lle saif y Ganolfan Ddinesig heddiw. Yn ystod y chwe mis yr oedd ar agor, mynychodd Tywysog a Thywysoges Cymru a denodd dros filiwn o ymwelwyr. Yn ogystal â'r arddangosion diwydiannol ac arforol, roedd hefyd amrywiaeth fawr o adloniant gan gynnwys perfformiadau gan anifeiliaid byw y jyngl a champau syrcas mentrus.

Roedd un artist, ‘Mademoiselle Albertina’, i esgyn o safle’r arddangosfa mewn balŵn, a pherfformio naid parasiwt dros Ysbyty Brenhinol Caerdydd wedi iddi gyrraedd uchder addas, gyda’r safle glanio i fod yn East Moors. Ar ddiwrnod y perfformiad, fodd bynnag, roedd awel gref ar y môr, ac ysgubwyd y balŵn allan yn gyflym dros Fôr Hafren. Gyda’r gynulleidfa wedi dychryn,  gwelwyd parasiwtydd yn disgyn o'r balŵn, gan ddiflannu o'r golwg i'r dyfroedd peryglus.

Tridiau yn ddiweddarach, gadawodd merch pymtheg oed, Mary Waggett, ei chartref Windbound Cottage, Trefonnen, i fynd am dro gyda'r hwyr ar lannau'r Wysg. ‘Wrth grwydro i mewn a mas gydag arglawdd y môr yn troi a throelli’, bu’n edrych am bren a oedd wedi’i olchi i’r lan gan y llanw. Wrth gyrraedd goleudy gorllewin Wysg, cafodd fraw pan welodd gorff yn y dŵr yn agos at y tir, wedi'i wisgo mewn gwisg forwrol. Rhedodd adref ar unwaith i gael cymorth, gan deithio ‘yn syth ar draws y rhostir hesgog, gan neidio cornentydd sych a dychryn gwartheg da sychedig.’ Esboniodd i’w mam ei bod wedi dod o hyd i gorff morwr yn y dŵr. Rhoddwyd gwybod i’r gweithwyr fferm a oedd yn torri gwair gerllaw am y corff yn gyflym. Ar ôl archwilio'r lleoliad, aethant i chwilio am y cwnstabl yn Nhrefonnen. Cymerodd hyn beth amser oherwydd y tir garw, felly ni chafodd y corff ei ddarganfod tan hanner nos, lle sefydlwyd yn sydyn mai menyw neu ferch ifanc oedd y dioddefydd mewn gwirionedd. 

Cafodd y corff ei gludo i eglwys Trefonnen a weithredodd fel marwdy dros dro. Aethpwyd â’r gwregys achub corc oedd o amgylch y corff i Dafarn y Waterloo gerllaw, lle sylweddolodd merch y tŷ, Miss Jones, ei bod yn debyg i'r disgrifiad o'r un a wisgwyd gan y balwnwraig coll. Gyda’r corff wedi’i adnabod yn ffurfiol, cynhaliwyd cwest y dydd Llun canlynol yn Nhafarn y Waterloo, dan lywyddiaeth Mr M Roberts-Jones, bargyfreithiwr Adran Ddeheuol Sir Fynwy. 

Yma datgelwyd enw go iawn y dioddefydd: Louisa Maud Evans, merch bedair ar ddeg oed. Ychydig amser yn ôl, cafodd ei chyflogi gan Mr Auguste Gaudron o Lundain, a oedd wedi cwrdd â hi tra roedd yn forwyn i Mr Hancock o Hancock’s Circus. Roedd Gaudron wedi cynnig cyfle iddi weithio iddo fel parasiwtwraig prentis am £5 y naid. Ni thrafferthodd i ddarganfod ei hoedran, neu os oedd ganddi brofiad blaenorol, gan ddweud ‘nid oes angen profiad, gall unrhyw un wneud hyn.’

Mae'n debyg bod Gaudron yn credu mai merch tua ugain oed oedd Louisa a gwadodd ei fod yn ymwybodol mai dim ond pedair ar ddeg oed oedd hi. Pan gafodd ei groesholi ar y mesurau diogelwch a gymerodd ar ddiwrnod disgyniad cyntaf (ac olaf) Louisa yng Nghaerdydd, dywedodd y pen-rheithiwr, 'Does gennych chi ddim hawl i beryglu bywyd merch ifanc fel hyn.' Ar ôl ei darparu gyda gwregys achub, roedd yn amlwg bod Gaudron wedi bod yn ymwybodol o'r posibilrwydd y byddai'n glanio yn y dŵr. Fodd bynnag, cafodd ei feirniadu gan y crwner am beidio â llogi cwch wrth gefn rhag ofn y byddai hynny'n digwydd.

Dyfarniad y crwner oedd bod y ferch a fu farw wedi boddi ym Môr Hafren ar ddamwain wrth ddisgyn o falŵn. Cafodd Gaudron ei geryddu’n uniongyrchol gan y crwner am ‘ganiatáu i berson mor ifanc a dibrofiad wneud disgyniad mor beryglus ac mewn tywydd o’r fath’ a’i rybuddio rhag caniatáu i’r fath beth ddigwydd eto.

Cynhaliwyd angladd Louisa ddeuddydd yn ddiweddarach. Cludwyd ei chorff i Fynwent Cathays, Caerdydd, mewn car Fictoria, a daeth llawer o drigolion i ddangos eu parch. Byddai'r car Fictoria ei hun wedi bod yn olygfa hynod; wedi ei gynhyrchu gan Mercedes-Benz yn ystod 1885-1886, mae'n cael ei ystyried yn eang fel y car cyntaf, yn rhedeg ar injan betrol sefydlog. Unwaith yr oedd pob galarwr wedi gadael y fynwent a’r haul wedi machlud, ‘fe wnaeth y glaw… ddechrau pitran eto, tra bod gwynt y nos yn dolefain ei orffwysgan trist ym mhennau uchaf y coed pinwydd.’

Mae carreg goffa i Louisa, a godwyd trwy gyfraniadau gan y cyhoedd, yn dal ym Mynwent Cathays hyd heddiw.

IMG_EastUsk_sunset.jpeg

Marion Sweeney

Cofeb ym mynwent Cathays (M Sweeney)

Mae'r arysgrif yn darllen:

In memory of Louisa Maud Evans, aged 14 ½ years. 

Who met with her death on July 21st 1896.

On that day she ascended in a balloon from Cardiff and descended by a parachute into the Bristol Channel. Her body was found washed ashore near Nash (Mon) on the 24th July and was buried here on the 29th.

To commemorate the sad ending of a brave young life.

This memorial is erected by public subscription.

Reguiescat in Pace [Rest in Peace]

Brave woman, yet in years a child, dark death closed here thy heavenward flight, God grant thee pure and undefiled, to reach at last the light of light.’