Treftadaeth Adeiledig


Mae yna amrywiaeth eang o adeiladau ar y Gwastadeddau, gan gynnwys eglwysi canoloesol, a bythynnod a ffermdai ôl-ganoloesol coeth yn ogystal ag adeiladau hanesyddol, fel Tŷ Tredegar, Pont Gludo Casnewydd a goleudy Dwyrain Wysg. Hefyd, gwelir adeiladau hyfryd sy'n gysylltiedig â'r pentrefi hŷn, gan gynnwys eglwysi bach â’u tyrau pigfain sy’n cael eu defnyddio fel marcwyr fertigol.

Mae’r Redwig yn bentref canoloesol sydd wedi ei ffurfio o gwmpas ardal ganolog, a dyma’r enghraifft orau o bentref wedi ei chadw a diogelu ar y Gwastadeddau, ac mae'n parhau i fod mewn cyflwr da iawn yn gyffredinol, gydag ychydig o adeiladau modern, gan gynnwys Eglwys Sant Thomas sy’n adeilad rhestredig gradd un. Mae dau o'r chwe chloch yn y tŵr canolog yn dyddio o'r cyfnod cyn y Diwygiad a chredir eu bod yn rhai o'r clychau hynaf yn y wlad sy’n dal i weithio.

Eglwysi yw'r safleoedd treftadaeth adeiledig allweddol ar y Gwastadeddau. Mae'r rhan fwyaf o straeon y Gwastadeddau yn gysylltiedig â’r eglwysi a'r gymuned sy'n byw o'u cwmpas.

Mae llawer o'r eglwysi’n wynebu’r Hafren a'r môr ac o ganlyniad mae’r cyswllt â hanes masnach forwrol Cymru yn agos. Mae nifer o gofnodion eglwysi yn nodi rhan o'r hanes morwrol yma, er enghraifft mae cofnodion yn eglwys Allteuryn yn dangos nad oedd plant yn mynd i'r ysgol yn Allteuryn yn 1912 oherwydd bod y llanw yn codi dros amddiffynfeydd y môr. Gallwn hefyd ddod i’r casgliad bod y morglawdd wedi’i hollti yn amlach yn Allteuryn nag yn Nhrefonnen oherwydd y nifer aruthrol o farwolaethau plant sydd wedi’u rhestru yng nghofnodion y plwyf lleol yno. Mae beddau morwyr yn Allteuryn a Threfonnen, ac mae cofnodion beddau ar gael ar gyfer Trefonnen, Y Redwig a Magwyr.

Yn Eglwys St Thomas yn Y Redwig, mae llechen ar y wal allanol yn coffáu llifogydd mawr 1607 pan fu farw miloedd o bobl ac anifeiliaid: gellir gweld enghreifftiau eraill o lechi tebyg ar eglwysi yn Allteuryn a Phorthsgiwed.

Coffáu’r Llifogydd Mawr, St Thomas, Y Redwig

Coffáu’r Llifogydd Mawr, St Thomas, Y Redwig