Cynnal Perllannau Traddodiadol
Mae Lefelau Byw wedi bod yn cefnogi perchnogion perllannau i adfer ac ailgyflenwi perllannau coll Gwastadeddau Gwent, gan helpu i ddiogelu amrywiaethau prin a phwysig a diogelu'r fioamrywiaeth sy'n byw ar y safleoedd hyn - mae llawer ohonynt hefyd yn Safleoedd o Bwysigrwydd ar gyfer Cadwraeth Natur (SoBCN).
Rheoli Perllan ar gyfer grym coed a ffrwythau
Tocio - Pam Tocio?
Diogelu ac adfer hen goed
Llunio coed ifanc
Cael gwared ar ganghennau sydd wedi'u difrodi a'u lleoli'n wael
Cynyddu golau ac aer
Rheoli plâu a chlefydau
Cydbwysedd tyfiant a chynhyrchu ffrwythau
Rheoli maint a siâp coed
Mae planhigion yn ymateb yn wahanol yn dibynnu ar yr adeg o'r flwyddyn y maen nhw’n cael eu tocio ac oedran y goeden.
Gaeaf - mae'r coesau'n frown tywyll ac yn anhyblyg: mae tocio yn ysgogi tyfiant egnïol.
Gwanwyn - mae'r coesau'n feddal ac yn wyrdd: mae tocio yn hybu tyfiant newydd ar yr ochr.
Haf - mae'r coesau'n frowngoch: mae tocio yn lleihau egni ac yn annog blagur blodau a ffrwythau.
Swyddi cynnal coed ffrwythau eraill
Teneuo ffrwythau
Tomwelltio
Rheoli glaswelltir/porfa
Rheoli chwyn a phlâu
Rheoli Perllannau ar gyfer Bioamrywiaeth
Mae perllannau traddodiadol yn cynnwys amrywiaeth o gynefinoedd ac yn darparu bwyd, lloches a safleoedd bridio i lawer o wahanol rywogaethau.
Plannwch goed newydd - cynyddu olyniaeth o gynefinoedd.
Cadwch bren marw a phren wedi pydru yn sefyll lle bo’n bosib a/neu greu pentyrrau coed - mae'n darparu cynefinoedd, bwyd a safleoedd nythu.
Cynnal mannau glaswelltir perllannau, prysgwydd a gwrychoedd - bydd yn hybu bioamrywiaeth, cysylltedd, ac yn cynnig lloches a bwyd.
Rheoli Uchelwydd, Eiddew a ffrwythau wedi disgyn - mae pob un yn darparu mwy o gynefinoedd i hybu amrywiaeth rhywogaethau, bwyd a safleoedd nythu.
Mae darganfod cydbwysedd rhwng iechyd y coed a chynhyrchu ffrwythau yn erbyn bioamrywiaeth yn bwysig.
Cadwch y glaswellt o amgylch y coed yn isel i leihau pla a hwyluso casglu ffrwythau neu i gael gwared â ffrwythau wedi pydru i ffwrdd o goed.
Cadwch olwg a chael gwared ar sypiau o Eiddew ac Uchelwydd i sicrhau nad yw'r coed yn cael eu gorchuddio na'u tagu.
Lle bo'n ddiogel, gadewch bren marw yn sefyll mor hir â phosib, yna cael eu gwared i greu pentyrrau o goed.
Rheolwch wrychoedd a phrysgwydd fel nad ydyn nhw'n gorchuddio’r coed.
Yn bennaf oll, mwynhewch eich perllan - maen nhw'n rhan unigryw a gwerthfawr o dreftadaeth Gwastadeddau Gwent.
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth a chyngor, cysylltwch ag Ymddiriedolaeth Natur Gwent ar info@gwentwildlife.org
Gwefannau:
Peoples Trust for Endangered Species: https://ptes.org/campaigns/traditional-orchard-project
Cymdeithas Perai a Seidr Cymru: https://www.welshcider.co.uk
Rhwydwaith Afalau’r Gororau www.marcherapple.net
Perllannau ar y Gwastadeddau
Dilynwch y ddolen isod i ddarllen hanes perllannau ar y Gwastadeddau a sut rydyn ni wedi bod yn gweithio gyda thirfeddianwyr i adfer a gwarchod perllannau traddodiadol.