Richard M. Clarke
Rydyn ni’n gyfarwydd clywed am “ystlumod yn y clochdy”, ond yn Sant Cadwaladr mae gennym ni rywbeth arall cyffrous yn llechu i fyny’r grisiau – Tylluanod Gwynion.
Eleni, gyda chymorth aelodau o Grŵp Modrwyo Allteuryn (‘y Grŵp’) roeddem yn gallu cadarnhau nid yn unig bod Tylluanod Gwynion wedi bod yn clwydo yn nhŵr yr eglwys ond eu bod hefyd wedi bridio’n llwyddiannus - gydag o leiaf un cyw wedi gadael y nyth yn llwyddiannus.
Mae Tylluanod Gwynion yn gysylltiedig yn hanesyddol ag eglwysi ac mae rhai pobl yn dal i gyfeirio at y rhywogaeth fel Tylluan Eglwys. Yn rhyfeddol efallai, o ystyried y nifer uchel o eglwysi yn ne ddwyrain Cymru, ychydig iawn o gofnodion o Dylluanod Gwynion sy'n gysylltiedig â nhw. Credir mai Sant Cadwaladr yw’r unig safle bridio presennol o fewn eglwys yn ardal Gwent.
Fe wnaeth adar yn Sant Cadwaladr nythu ar un o’r siliau uchel yn y tŵr. Fel y nodwyd eisoes, roedd bridio’n llwyddiannus eleni ond gallai lefel y llwyddiant fod wedi bod yn uwch. Roedd y sil nythu yn beryglus, gydag wy wedi malu wedi ei ddarganfod o dan y sil ar lawr. Er mwyn gwella’r sefyllfa wrth symud ymlaen, mae'r Grŵp wedi adeiladu a gosod blwch nythu gyda’r gobaith o ddarparu safle nythu mwy diogel.
Mae'r Dylluan Wen yn rhywogaeth eiconig sy’n cael ei diogelu o dan Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae adar sy'n nythu, yn ogystal â’r nythod, yr wyau a'r rhai ifanc yn cael eu diogelu drwy gydol yr amser. Yn y gorffennol, mae’r rhywogaeth wedi dioddef dirywiad sylweddol ac yn y ganrif ddiwethaf cafodd ei heffeithio'n andwyol gan blaladdwyr organoclorin fel DDT yn y 1950au a'r 1960au. Prif fygythiadau/ffactorau cyfyngol heddiw yw colli cynefin addas, damweiniau ar ffyrdd prysur, gwenwyno gan wenwyn llygod (rodenticides) a cholli (neu ddiffyg) safleoedd nythu.
Mae Sant Cadwaladr yn rhan o brosiect ehangach sy’n cael ei hyrwyddo gan y Grŵp sydd â’r nod o helpu i gynnal, a lle bo modd, cynyddu poblogaeth Tylluanod Gwynion trwy ddarparu blychau nythu. Gyda chefnogaeth ariannol y Lefelau Byw, Llywodraeth Cymru a Phartneriaeth Natur Leol Sir Fynwy a Chasnewydd, mae'r Grŵp wedi bod yn darparu safleoedd nythu addas/diogel mewn ardaloedd sydd wrth ymyl cynefinoedd da.
Hyd yma, mae dros 50 o flychau nythu wedi'u gosod yn ne Gwent. A bellach, fe welir buddion y weithred hon. Yn 2019, roedd pum pâr bridio wedi nythu yn y blychau a defnyddiwyd tri arall gan adar yn clwydo. Llynedd, bridiwyd chwe phâr gyda phedwar ohonyn nhw’n magu’n llwyddiannus, ac roedd y blychau eraill yn cael eu defnyddio gan adar yn clwydo. Eleni, defnyddiodd deg pâr bridio y blychau nythu a phedwar arall yn cael eu defnyddio ar gyfer clwydo.
Mae'r mwyafrif o flychau nythu wedi'u gosod mewn ysguboriau neu ar goed sy’n sefyll ar ben eu hunain, ac ambell un mewn eglwysi gwledig. Yn ogystal â Sant Cadwaladr, mae blychau nythu wedi’u gosod yn eglwysi Sant Pedr, Yr Eglwys Newydd ar y Cefn, Y Santes Fair, Llan-wern a Sant Pedr, Henllys gyda thrafodaethau pellach mewn eglwysi eraill.
Bydd Tylluanod Gwynion yn parhau i gael eu monitro yn Sant Cadwaladr. Mae cynlluniau ar y gweill hefyd i barhau i gynnal yr adar yn ystod gwaith adnewyddu’r eglwys yn y dyfodol a bydd blwch nythu yn cael ei osod y tu allan ar dir yr eglwys i ddarparu llety dros dro pe bai angen cau mynediad i'r twr pan fydd gwaith yn cychwyn.
Mae'r Grŵp yn parhau i chwilio am safleoedd newydd yng Ngwent i geisio annog Tylluanod Gwynion i fridio, a byddent yn hapus i glywed gan dirfeddianwyr a fyddai â diddordeb mewn gosod blychau nythu ar eu tir. Cysylltwch â Richard Clarke ar chykembro2@aol.com neu 07977 698255.