Mae safle picnic Y Garreg Ddu yn cynnig golygfeydd panoramig ysblennydd o Aber Afon Hafren a'r ddwy bont.
Mae’r Garreg Ddu wedi bod yn fan croesi rhwng Cymru a Lloegr ers canrifoedd; mae'n debygol bod darnau arian Rhufeinig a ddarganfuwyd yn y mwd ar hyd y blaendraeth wedi'u taflu i'r dŵr fel offrwm i'r duwiau ar gyfer taith ddiogel.
Cofnodwyd y gwasanaeth fferi reolaidd gynharaf yn 1131, rhwng Aust a Beachley. Defnyddiwyd gan y mynachod yn Abaty Tyndyrn ac fe’i gelwir yn aml yn ‘Old Passage’, er mewn gwirionedd, gall y groesfan yng Ngharreg Ddu, a elwir y ‘New Passage’, fod yn hŷn! Roedd y ddwy groesfan fferi yma’n beryglus; byddai teithwyr yn y 18fed ganrif yn aml yn dewis y daith hirach dros dir trwy Gaerloyw yn hytrach na mentro ar y fferi.
Yn 1863, agorodd Rheilffordd De Cymru wasanaeth rheilffordd a fferi stêm newydd yng Ngharreg Ddu. Byddai trenau yn aros ar bier lle disgynnai’r teithwyr oddi arnynt ac i mewn i fferi. Aeth y fferi â nhw ar draws yr aber i bier arall yn Lloegr, lle byddai trên yn mynd â nhw ymlaen i Fryste. Gallwch weld seiliau brics y pier yng Ngharreg Ddu o hyd yn ystod llanw isel.
Yn 1881, cafodd y pier ei ddifrodi'n ddrwg gan dân, a daeth yn hollol segur pan agorodd Twnnel Hafren y flwyddyn ganlynol. Yn gamp beirianneg syfrdanol, cymerodd bron i ddeg mlynedd i'w chwblhau (defnyddiwyd dros 74 miliwn o frics i’w adeiladu) a thorri'r amser teithio o Gaerdydd i Fryste o 2.5 awr i ddim ond 75 munud.
Agorwyd y gwasanaeth fferi yn y Garreg Ddu unwaith yn rhagor yn y 1930au wrth i’r defnydd o geir modur gynyddu, a gweithredodd hyd nes agor Pont Hafren yn 1966.
Mwy o Wybodaeth
Cliciwch yma am ragor o wybodaeth am safle picnic y Garreg Ddu.
Dilynwch Lwybr Arfordir Cymru i'r dwyrain ar draws Morfa Gwent tuag at Gas-gwent, i'r gorllewin i'r fryngaer hynafol yn Sudbrook, neu ewch tuag at Gastell Cil-y-Coed.
O fis Mehefin i Awst, cadwch lygad am y pysgotwyr rhwydi gafl yn cerdded trwy’r dŵr ar lanw isel gyda’u rhwydi siâp ‘Y’. Mae'r ffordd draddodiadol hon o bysgota am eog wedi gweithredu yma ers y 1700au a dyma'r olaf o'i fath yng Nghymru.
Map Trysor y Cof
Ymweld ag archwilio saith lleoliad ar Wastadeddau Gwent gan ddefnyddio ein mapiau trysor y cof sy'n cynnwys gwybodaeth am beth i’w weld yno a gweithgareddau i helpu'ch dosbarth neu'ch teulu i ddysgu mwy am bob lle.