Mae cysylltiad agos rhwng hanes eglwys y Santes Fair, Trefonnen, a adnabyddir yn lleol fel “Eglwys Gadeiriol y Rhostiroedd”, â'r Priordy Benedictaidd canoloesol cyfagos yn Allteuryn.
Yn 1113, rhoddodd Arglwydd Normanaidd Caerllion, Robert de Chandos, dir ar hyd yr arfordir, a oedd bryd hynny yn gorstir gwyllt, i Abaty Benedictaidd Bec, ger Rouen yn Ffrainc, ar gyfer sefydlu priordy. Er mwyn gwella'r tir ar gyfer ffermio a lleihau'r perygl o lifogydd, adeiladodd y priordy amddiffynfeydd môr ar hyd yr arfordir a datblygu system gywrain o ffosydd a rhewynau i ddraenio'r tir.
Mae siarter sylfaen y priordy yn cyfeirio at eglwys yn Allteuryn a chapel yn Nhrefonnen. Mae'r eglwys bresennol yn dyddio o'r amser hwn, er iddi gael ei hailadeiladu'n helaeth yn yr 16eg ganrif a bellach ychydig iawn sydd yn weddill o’r adeilad Normanaidd gwreiddiol. Ar un adeg roedd yr eglwys yn llawer mwy, ond cafodd yr eil ogleddol hyd at gorff yr eglwys ei ddymchwel yn 1792; mae llinell do yr eil i'w gweld o hyd ar y tŵr.
Mae tŵr yr eglwys, gyda'i meindwr wythonglog tal, yn dyddio o'r 1500au ac mae ganddo 6 chloch yn dyddio'n bennaf o'r 18fed ganrif. Mae'n dirnod a welir am filltiroedd lawer ac ar un adeg, y tŵr oedd y strwythur talaf ar y Gwastadeddau. Er ei fod yn dal i fod yn nodwedd amlwg, mae tyrbinau gwynt enfawr a strwythur anferthol Gorsaf Bŵer Aber-wysg bellach yn gawraidd wrth ei ymyl. Yn anarferol, mae'r tŵr ar ochr ogleddol yr eglwys. Wrth ymyl drws bach ar waelod y tŵr mae plac yn nodi uchder y llanw yn ystod Llifogydd Mawr 1606/07.
Y tu mewn, mae gan yr eglwys set gyflawn o ddodrefn o'r 18fed ganrif, gyda seddau caeedig, pulpud ar dair lefel a galeri gorllewinol. Cadwch lygad am yr ysbïendwll, twll sbecian rhwng yr ystafell ar waelod y tŵr a’r gangell. Roedd hyn yn caniatáu i gynorthwyydd weld y gwasanaeth a chyfathrebu â'r canwyr clychau.
OS cyfeirnod grid: ST 343 836