Hanes Unigryw
We find faulty and do order Ellen Reen to be reaped and scowred beginning at Blackmoor Gout containing 495 perches done John Grpsham Howe Esq., worth the doing one pound 4 pence.
extract from a presentment from the 1690-1710 Court Minutes
Mae’r Gwastadeddau sydd i’w gweld heddiw yn ddyledus iawn i ddatblygiad y morglawdd o'r Oesoedd Canol.
Roedd draenio'r tir yn ymdrech ddynol enfawr: adeiladu mur y môr a phalu system gymhleth o ffosydd er mwyn gallu cynhyrchu ar y tir yn llewyrchus. Mae'r fframwaith cyfreithiol a ddatblygodd i sicrhau cynhaliaeth y strwythur hwn yn ei hun yn rhan ddiddorol o stori’r Gwastadeddau, fel yr eirfa ‘Levels Lingo’ unigryw a grëwyd.
Deddf Carthffosydd
Yn 1531, pasiwyd 'Deddf Carthffosydd' gan Harri’r Wythfed a adawodd i Gomisiynwyr Carthffosydd i godi trethi i dalu am amddiffynfeydd môr a gwaith draenio. Roedd gan y Llysoedd bŵer i orchymyn tirfeddianwyr i atgyweirio diffygion mewn morgloddiau a systemau draenio, ac os nad oedd y gwaith atgyweirio yn cael ei gwblhau, awdurdodwyd eraill i wneud y gwaith gan adennill costau gan y tirfeddiannwr absennol.
Ar yr adeg yma, a hyd at Ddeddf Seneddol 1884, roedd rheoli amddiffynfeydd y môr a draeniau yn 'ratione tenurae' – roedd rhaid i bob perchennog tir gynnal a chadw’r rhannau hynny o'r amddiffynfeydd neu system ddraenio a oedd ar ei dir .
Mae pob llinach wedi dibynnu ar reoli system draenio'r Gwastadeddau yn llwyddiannus: cyfrifoldeb sydd bellach gan Gyfoeth Naturiol Cymru ers cymryd drosodd o Fwrdd Draenio Mewnol Cil-y-coed a Gwastadeddau Gwynllŵg yn 2011, corff a gymerodd y cyfrifoldeb gan Gomisiynwyr Carthffosydd pan gafodd ei sefydlu yn 1942.
Mae adroddiadau hanesyddol yn datgelu nifer o straeon dynol o frwydrau anodd a chorfforol wrth gynnal y tirlun unigryw yma dros lawer o ganrifoedd. Cafodd llawer o'r Gwastadeddau eu draenio â llaw gan ddefnyddio offer sylfaenol hyd at y 1960au. Mae goroesiad mapiau hanesyddol fel mapiau arolwg Comisiynwyr Carthffosydd 1830au yn dangos datblygiad o reolaeth draddodiadol o system draenio'r ardal.
Mae'r system rheoli dŵr yn y bôn yn dal i weithredu fel y bwriedir, ac yn adlewyrchu'r rôl unigryw a strategol y mae wedi ei chwarae ac yn dal i chwarae wrth ddraenio’r tir ac atal llifogydd: mae nodweddion draenio hanesyddol y tirlun yn atal rhan sylweddol o dir gwerthfawr amaethyddol rhag llifogydd, yn ogystal ag eiddo o fewn y Gwastadeddau ac o’i amgylch.
Dangosir yr elfen o densiwn a pherygl sy'n bodoli rhwng y tir a'r môr gan lifogydd trychinebus 1607 a llawer o lifogydd wedi hynny a'r gorchymyn parhaol i reoli lefelau dwr a'r system ddraenio yn ofalus.