Anne Williams – Brinciwr

‘Brinciwr’, neu ‘Brinker’ yw hen air unigryw o’r ‘Levels lingo’ am berson sy'n berchen ar dir ar un ochr i ffos, clawdd neu gilfach ac sy'n gyfrifol am y gwaith cynnal a chadw.


Yn ôl arolwg gan y Llys Carthffosydd yn 1720, sydd wedi ei gadw yn Archifau Gwent, roedd y weddw Anne Williams o Whitson ymhlith y perchnogion yma a oedd yn berchen ar dir yn ffinio â Monks Ditch. Golyga hyn ei bod yn gyfrifol am gynnal a chadw i'w morglawdd neu ei wal ar hyd ei thir. Pan fu farw Anne yn 1723, roedd yn ofynnol i'w mab William drefnu bod rhestr eiddo yn cael ei gwneud o'i nwyddau.

Roedd Anne yn rhedeg fferm gymysg. Roedd ganddi 26 o fuchod o wahanol oedrannau a phedwar llo; roedd caws a menyn yn ei llaethdy. Defnyddiwyd saith ceffyl i weithio ar y tir lle tyfodd gwenith. Roedd hi'n hefyd yn cadw dau fochyn.

Y tu mewn i'r ffermdy, roedd prif ystafell fyw Anne yn cynnwys dau fwrdd, cwpwrdd, cist, mainc, pum cadair a phum stôl. Mewn man arall (yn debygol yn y gegin) roedd setlau, dwy fainc a chadair wedi eu padio â gwellt. Roedd offer coginio yn cynnwys dwy sosban bres, pot pres, crochan pres a dwy sgilet (tegelli bach neu botiau, yn aml gyda choesau). Rhestrwyd dau bot haearn a grât haearn fel 'perthyn i'r tŷ'. Gweinwyd prydau bwyd gan ddefnyddio plât copr, saith dysgl piwter a thri phlât piwter, ac roedd hi'n berchen ar 14 llwy. Roedd gan Anne hefyd dancard, seler halen a dysglau pren.

Roedd matres plu ar un o'i phedwar gwely. Disgrifiwyd y tri arall fel 'gwelyau llwch', gan nodi efallai eu bod wedi'u llenwi'n symlach – dyma’r amser pan oedd bobl yn aml yn cysgu ar welyau o wair. Hefyd roedd dau obennydd plu, clustogau a chynfasau. Nid oedd dillad Anne wedi'u rhestru'n unigol.

Cyfanswm gwerth eiddo personol Anne oedd bron i £82. Gellir gweld ei rhestr eiddo ar wefan Llyfrgell Genedlaethol Cymru.


 
Llyfrgell Genedlaethol Cymru

Llyfrgell Genedlaethol Cymru