Pont Gludo Casnewydd

Mae’r Pont Gludo Casnewydd rhyfeddol yn un o ddim ond chwe phont yn y byd o'i fath sy'n dal i weithredu o gyfanswm o ugain a gafwyd eu hadeiladu.

Adeiladwyd y bont i alluogi gweithwyr i deithio o ochr orllewinol Afon Wysg i’w gwaith yn y dwyrain. Fe gymerodd le llong fferi, a oedd yn annibynadwy oherwydd ystod y llanw uchel yng Nghasnewydd.

Cost y bont oedd £98,000 i'w chwblhau (£7.7 miliwn yn 2017) ac fe'i hagorwyd ar 12fed o Fedi 1906 gan Arglwydd Tredegar o Dŷ Tredegar. Mae’r prif rychwant yn 197 metr o led ac mae'r ddau dwr yn 74 metr o uchder. Mae'r gondola, sy’n crogi dan y prif rychwant, yn teithio 3 metr yr eiliad.

Defnyddiwyd y cynllun i adeiladu pont i berswadio John Lysaght o Fryste i adeiladu Gwaith Haearn Orb yn Fferm Pill ar ochr ddwyreiniol Wysg yn 1898. Heb y bont, byddai rhaid i’r gweithwyr oedd yn byw ar lan ddwyreiniol yr afon deithio pedair milltir i'r felin trwy bont y Castell, gan basio tua 28 o dafarndai ar y ffordd.

Adeiladu’r bont (Galeri Amgueddfa ac Oriel Gelf Casnewydd)

Gwyliwch Seremoni Agoriadol Pont Gludo Casnewydd (1906):


Mwy o wybodaeth

Am ragor o wybodaeth am y Bont Gludo ac amserau agor, ewch i wefan Amgueddfeydd a Threftadaeth Casnewydd.

Am ragor o wybodaeth am hanes y bont, ewch i wefan Cyfeillion Pont Gludo Casnewydd.

Ewch am dro ar y gondola ac yna cerddwch yn ôl dros y pen uchaf i weld golygfeydd trawiadol o Gasnewydd ac ar draws y Gwastadeddau.


Canolfan Ymwelwyr, Pont Gludo Casnewydd, Stryd Brunel, Casnewydd, De Cymru, NP20 2JY

Oriau agor

3ydd o Ebrill – 29ain o Fedi 2019
Ar agor o ddydd Mercher i ddydd Sul ac ar bob gŵyl y banc o 10yb i 5yp.
Mynediad olaf i lwybr cerdded lefel uchel am 4yp a gondola olaf yn croesi o'r gorllewin i'r dwyrain am 4.30yp.

Prisiau

Ymwelwyr dyddiol / Oedolion - £4
Ymwelwyr dyddiol / Plant - £3
Taith sengl - £1.50 / £1.00 (O /P)
Taith dychwelyd - £2.00 / £1.50 (O /P)

Sut i gyrraedd yno

Ar drafnidiaeth gyhoeddus

Google maps


Ar feic

Google maps


Yn y car

Google maps

 

Cefnogwch y Bont

Mae Cyngor Dinas Casnewydd yn codi arian i i sicrhau dyfodol yr adeilad eiconig hwn. Gallwch gyfrannu trwy ymweld â'u tudalen Just Giving.