- Bob Trett, curadur amgueddfa wedi ymddeol (Casnewydd)
Mae’r Hafren yn un o sianeli mordwyol pwysicaf y byd, a hynny ers yr Oes Efydd.
Mae’r Gwastadeddau yn “ardal hynod gymhleth,” esboniodd cyn-guradur Amgueddfa Casnewydd ac achubwr Llong Casnewydd, Bob Trett. “Mae'r aber wedi ei wneud o haenau o fawn a llifwaddod neu glai, ac mae pob llanw'n gosod haenau ychwanegol o fwd.” Weithiau bydd storm neu lanw sy’n codi’n donnau yn sgwrio’r haenau hyn gan ddatgelu tystiolaeth o'r gorffennol. Gyda chymorth canfyddwyr metel lleol, mae Bob wedi cofnodi rhai o ddarganfyddiadau mwyaf cyffrous yr 20fed ganrif ar y Gwastadeddau. Roedd pentref o'r Oes Haearn yn Goldcliff Pil, a ger Magor Pil, ffordd danddwr hynafol. (Cafodd ei enwi fel Llwybr Upton er anrhydedd i’r cyn-weithiwr dur a drodd yn archeolegydd, Derek Upton.)
Darganfuwyd rhannau o grefftau o'r Oes Efydd ynghyd â chwch Barland, sy'n dyddio o oes y Rhufeiniaid; Llong Casnewydd enwog o'r 15fed ganrif a chwch camlas 200 mlwydd oed sydd bron yn gyflawn. Maen nhw hyd yn oed wedi dod o hyd i Spitfire o'r Ail Ryfel Byd.
“Ar ôl dechrau gyda bron ddim byd, ry’n ni wedi gorffen gyda chasgliad pwysig. Ac mae'n anhygoel beth ry’ch chi'n ei ddarganfod allan yno: darganfu llywydd Ymddiriedolaeth Natur Gwent asgwrn hir enfawr. Pan gawsom ni ganlyniadau’n ôl, asgwrn coes jiráff oedd e!”
Arddangosfa deithiol Bywyd ar y Lefelau
Adeilad Pierhead (Oriel y Dyfodol), Bae Caerdydd. Chwefror 27ain - Mawrth 26ain.
Canolfan Groeso Cas-gwent, Cas-gwent. Ebrill 20fed - Mai 30ain.
Glan yr Afon Casnewydd, Kingsway, Casnewydd. Mehefin 3ydd - Mehefin 26ain.
Amgueddfa Caerdydd, Yr Hen Lyfrgell, Caerdydd. Gorffennaf 3ydd - Awst 2il.