Bywyd ar y Lefelau

Mae Bywyd ar y Lefelau yn dathlu treftadaeth ddiwylliannol y tirlun unigryw hwn trwy gofnodi straeon pobl sydd wedi byw, gweithio a chwarae ar y Gwastadeddau.

Mae Bywyd ar y Lefelau yn ffurfio hanes llafar un o ardaloedd y wlad sydd wedi ei esgeuluso a’r fwyaf cuddiedig, o'r 1930au - 2000au, gan gadw gafael ar leisiau ac atgofion sydd mewn perygl o ddiflannu.

Dros y blynyddoedd, mae'r Gwastadeddau wedi cefnogi ffermio, cynnal a chadw ffosydd, pysgota, ymolchi, gweithwyr ffowndri, seiri llong, potswyr, gwneuthurwyr basgedi pysgota, gweithwyr rheilffordd, a llawer mwy. Trwy gyfweliadau, llythyrau, dyddiaduron a ffotograffau rydym wedi creu archif gyfoethog o straeon a fydd yn adnodd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Lluniau gan y ffotograffwyr Emma Drabble a Nanette Hepburn.

Cliciwch ar y dolenni isod i archwilio archif hanes llafar Bywyd ar y Lefelau neu ewch i’r oriel fideo i wylio rhai o'r cyfweliadau.